Mapuche
![]() Un o bobloedd brodorol De America yw'r Mapuche neu Mapunche; fe'i gelwir hefyd yn Arawcaniaid, ond nid ydynt yn hoffi'r enw yma. Ceir eu tiriogaethau yng nghanolbarth a de Tsile a de-orllewin yr Ariannin. Yn ôl cyfrifiad 2002, roedd 604,349 ohonynt yn Tsile, ac mae tua 300,000 yn yr Ariannin. Yn y dinasoedd mae llawer ohonynt yn byw erbyn hyn. Mae tua 440,000 ohonynt yn siarad yr iaith Mapudungun. Bu'r Mapuche oedd yn byw rhwng afonydd Biobío a Toltén yn ymladd yn erbyn y Sbaenwyr am tua 300 mlynedd, gydag ysbeidiau o heddwch. Dim ond wedi i Tsile a'r Ariannin ddod yn wledydd annibynnol y goresgynnwyd eu tiroedd a'i gyrru i warchodfeydd. Rhwng y 17g a rhan gyntaf y 19g, ymledodd y Mapuche tua'r dwyrain a llyncasant nifer o bobloedd eraill megis y Tehuelche, a fabwysiadodd iaith ac arferion y Mapuche. |
Portal di Ensiklopedia Dunia