Maiden Castle
Bryngaer yn Dorset, De-orllewin Lloegr, yw Maiden Castle. Mae'n safle 44 erw (18 ha)[1] ar gopa Bryn Fordington, ger Dorchester. Credir y gallai'r amddiffynfeydd cyntaf ddyddio o tua 2,000 CC. Cloddiwyd y safle gan yr archaeolegydd enwog Syr Mortimer Wheeler a chafwyd hyd i dystiolaeth fod pentref o gyfnod Oes yr Haearn ar y safle tua 400 CC. Cafodd ei chipio gan y Rhufeiniaid yn OC 43 a'i gadael yn anghyfanedd ar ôl tua 70. Cymharwyd maint a chryfder y fryngaer gydag un arall: Dinorben ger Abergele. Disgrifiwyd Dinorben (cyn iddi gael ei chwalu gan gloddio chwarelyddol yn yr 20g) gan yr archaeolegydd Gardner fel hyn: "Cododd y clawdd mewnol enfawr, a oedd eisioes wedi'i herydu, 7 metr llawn uwchben wyneb y tir, a bron i 12m uwchben gwaelod y ffos allanol... Mae hyn yn ei osod yn gyfartal â Maiden Castle yn Dorset, gwersyll aruthrol o fawr."[2]
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia