Máirtín Ó Cadhain
Ysgrifennwr yn yr iaith Wyddeleg oedd Máirtín Ó Cadhain (1906 – 18 Hydref 1970; IPA: ˈmɑːrtʲiːnʲ oː ˈkainʲ). Ganwyd Máirtín Ó Cadhain yn Cnocán Glas, ger pentre An Spidéal yn Sir Gaillimh. Roedd yn aelod yr IRA (Byddin Weriniaethol Iwerddon). Roedd e'n weithgar iawn dros y Wyddeleg ac yn aelod y gymdeithas Muintir na Gaeltachta a helpodd sefydlu Gaeltacht newydd Ráth Chairn yn Swydd Meath ym 1935. Cafodd ei garcharu yng ngwersyll y Currach yn Cill Dara drwy'r Ail Rhyfel y Byd am ei fod yn aelod yr IRA. Yno fe astudiodd ieithoedd megis Rwseg, Cymraeg a Llydaweg. Ac yno yr ysgrifennodd ei waith enwocaf, y nofel Cré na Cille (tir y mynwent). Aeth ymlaen i addysgu cannoedd o'i gyd-carcharwyr y Wyddeleg. Ysgrifennwyd dau lyfr arall tra yn y carchar Athnuachan a Barbed Wire. Ar sail ei lyfrau apwyntwyd e yn ddarlithydd Gwyddeleg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn Ystirir Ó Cadhain fel un o brif awduron Gwyddeleg yr 20g. Roedd e'n rhugl ym mhob un o'r tafodieithoedd a Gaeleg yr Alban yn ogystal ar Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Ganol. Roedd yn un o sylfaenwyr y mudiad hawliau iaith Wyddeleg, Gluaiseacht Chearta Sibhialta na Gaeltachta, mudiad a ysbrydolwyd gan ddulliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. CyhoeddiadauYsgrifennodd Máirtín Ó Cadhain yn yr Irish Times (27 Chwefror, 1970), "Os na fydd y Llywodraeth yn sefydlu radio cyfreithlon efallai y bydd radio anghyfreithlon."
erthyglau amdano yn y Lydaweg |
Portal di Ensiklopedia Dunia