Lynn Ungoed-Thomas
Roedd Mr Ustus Syr Arwyn Lynn Ungoed-Thomas (29 Mehefin 1904 - 4 Rhagfyr 1972) yn Fargyfreithiwr, yn Aelod Seneddol Llandaf a'r Barri a Gogledd Orllewin Caerlŷr ac yn Farnwr yr Uchel Lys [1] Bywyd personolGanwyd Ungoed-Thomas yng Nghaerfyrddin yn fab i'r Parch Evan Ungoed-Thomas, gweinidog gyda'r Bedyddwyr a Katherine (née Howells) ei wraig. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin ac yna'n myfyriwr yng Ngholeg Haileybury, Rhydychen a Choleg Magdalen, Rhydychen. Bu'n chwarae rygbi i Brifysgol Rhydychen, Cymru Llundain ac ym 1924 bu ar y fainc dros dîm rhyngwladol Cymru. Ym 1933 priododd Dorothy ferch Jasper Travers Wolfe bu iddynt dau fab ac un ferch. GyrfaGalwyd Ungoed-Thomas i'r Bar yn y Deml Ganol ym 1929, fe'i codwyd yn Cwnsler y Brenin ym 1947 ac yn Feinciwr ym 1951. Bu'n aelod o Gyngor Cyffredinol y Bar o 1946 ac yn Gadeirydd Gymdeithas y bar yn Siawnsri. Ym 1959 aeth i Pretoria ar ran Justice yr adran Brydeinig o Gomisiwn Rhyngwladol y Cyfreithegwyr fel arsyllwr ar yr achos llys yn erbyn Nelson Mandela ar gyhuddiad o fradwriaeth.[2] Gwasanaethodd fel aelod o Bwyllgor Uthwatt ar Ddiwygio'r Drefn Brydlesol ym 1948 a bu'n aelod o Pwyllgor ar Lysoedd Marsial y Llynges ym 1949. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yng nghatrawd y Magnelwyr Brenhinol gan ddringo i reng Uwchgapten. Gyrfa wleidyddolYn etholiad cyffredinol 1945 safodd Ungoed-Thomas fel ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholaeth Llandaf a'r Barri, cipiodd y sedd gyda mwyafrif mawr oddi wrth y Ceidwadwyr. Erbyn yr etholiad nesaf ym 1950 diddymwyd Llandaf a'r Barri a fu'r etholaeth olynol Y Barri yn llawer mwy ymylol; gan hynny penderfynodd Ungoed-Thomas sefyll yng Nghaerfyrddin etholaeth ei fagwraeth, ond fe fu'n aflwyddiannus yn ei ymgais a llwyddodd yr Aelod Rhyddfrydol, Rhys Hopkin Morris i dal y sedd o 187 pleidlais. Ychydig fisoedd wedi'r etholiad dyrchafwyd Terence Norbert Donovan AS Llafur Gogledd Orllewin Caerlŷr yn farnwr, gan achosi ei ymneilltuo o'r Senedd; dewiswyd Ungoed-Thomas fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer yr isetholiad; llwyddodd i gael ei ethol ac i ddal y sedd hyd 1962 pan gafodd ef, hefyd, ei dyrchafu'n farnwr a gorfod ymneilltuo o'r Senedd.[3] Ym 1949 bu'n aelod o'r ddirprwyaeth i Brydain i Gyngor Ewrop lle fu'n dadlau'n gryf o blaid sefydlu Llys Hawliau Dynol Ewrop. Fe fu hefyd yn gefnogwr brwd i Brydain ymuno a'r Gymuned Ewropeaidd gan lythyru i'r Times yn achlysurol i hyrwyddo'r achos. Gwasanaethodd fel y Twrnai Cyffredinol o 1951 hyd ddymchwel llywodraeth Attlee ym 1951[4] BarnwrFel Barnwr bu'n ymwneud â nifer o achosion pwysig gan gynnwys:
MarwolaethBu farw yn sydyn yn Llundain yn 68 mlwydd oed[6] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia