Llyn Llech Owain
Mae Llyn Llech Owain yn llyn rhwng pentrefi Gors-las a Maes-y-bont, yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin. Yn ôl traddodiad bu i Owain fab Urien Rheged, un o farchogion Arthur, ddod yma ac yfed o ffynnon gyda llechen fawr drosti. Yfodd ei wala ond anghofiodd roi'r llechen yn ôl yn ei lle. Gorlifodd y ffynnon gan ffurfio llyn. Wrth adael ar ei geffyl ar ymyl y llyn, peidiodd y dŵr a llifo ac yn ôl traddodiad mae ôl carnau'r ceffyl yn dal i'w gweld yno heddiw. ![]() Ceir adlais o'r Tair Rhamant canoloesol ynghyd â motifau llên gwerin cyfarwydd yn y traddodiad hwn. NaturMae'r neidr wair i'w chael yng Nghwm Gwendraeth. Tynnwyd y llun hwn yn yr ardd gefn a chae go wyllt drws nesa - a digon o wair! neidr wair yw enw arall arno. Mae'r ardd lle tynnwyd y llun yn agos i Lyn Llech Owain a cheir digon o fywyd gwyllt yno.[1] Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia