Llyn Cwm Llwch

Llyn Cwm Llwch
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8875°N 3.4517°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym Mhowys yw Llyn Cwm Llwch. Saif mewn cwm o darddiad rhewlifol islaw copaon Pen y Fan a Corn Du ym Mannau Brycheiniog. Llifa Nant Cwm Llwch o'r llyn i ymuno ag Afon Tarell, sydd yn ei thro yn ymuno ag Afon Wysg gerllaw Aberhonddu.

Gerllaw'r llyn mae cofeb Tommy Jones, bachgen bychan a fu farw yma flynyddoedd yn ôl wedi mynd ar goll yn y mynyddoedd.

Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia