Llygoden yr ŷd
Llygoden fach frowngoch gyda chynffon afaelog yw llygoden yr ŷd (Micromys minutus). Mae i'w gael mewn rhanbarthau ledled Ewrop a gogledd Asia. Nid yw'n gyffredin yng Nghymru, lle mae ei statws yn "fregus".[1] Mae'n byw mewn glaswelltir a thir âr, yn enwedig ardaloedd o laswellt tal fel ydau, ymylon ffyrdd, gwrychoedd, corsleoedd a morfeydd heli. Mae'r planhigion tal yn darparu lleoedd addas lle gall adeiladu ei nyth nodweddiadol - pelen o laswellt wedi'u gwehyddu'n dynn. ![]() Mae ganddi drwyn di-fin, llygaid bach a chlustiau bach blewog (yn wahanol i rywogaethau eraill o lygod yng ngwledydd Prydain). Mae ei ffwr yn llwytgoch neu felyngoch gyda thor wen. Mae'n defnyddio ei chynffon, sydd cyhyd â'r pen a'r corff, i afael â chorsennau'r ŷd wrth iddi ddringo yn eu plith. Fel arfer mae'n bwyta hadau, aeron a phryfed, ond weithiau mwsogl, gwreiddiau a ffyngau hefyd. Mae'n gallu cymryd grawn o bennau ŷd, gan adael gweddillion siâp cryman nodweddiadol, ond anaml y mae'n achosi llawer o ddifrod i gnydau. Mae'n byw tua 18 mis ar gyfartal. Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia