Camau i gyfyngu ar newid hinsawdd yw lliniaru newid hinsawdd, drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr neu dynnu'r nwyon hynny o'r atmosffer.[1]: 2239. Yn llawnach, gellir hefyd ei alw'n lliniaru'r broses o newid yr hinsawdd. Mae’r cynnydd diweddar yn nhymheredd cyfartalog y Ddaear yn cael ei achosi’n bennaf gan allyriadau o losgi tanwydd ffosil (glo, olew, a nwy naturiol). Gall lliniaru leihau allyriadau trwy newid i ffynonellau ynni cynaliadwy, arbed ynni, a chynyddu effeithlonrwydd. Yn ogystal, gellir tynnu CO o'r atmosffer trwy ehangu coedwigoedd, adfer gwlyptiroedd a defnyddio prosesau naturiol a thechnegol eraill, sy'n cael eu grwpio gyda'i gilydd o dan y term dal a storio carbon.[2]: 12 [3]
Ynni solar ac ynni gwynt sydd â'r potensial mwyaf i liniaru newid hinsawdd, am y gost lleiaf.[4] Rhoddir sylw i argaeledd amrywiol haul a gwynt trwy storio ynni a gwell gridiau trydanol, gan gynnwys trawsyrru trydan pellter hir, rheoli galw ac arallgyfeirio ynni adnewyddadwy. Gan fod pŵer carbon isel ar gael ym mhobman, gall cludiant a gwresogi ddibynnu fwyfwy ar y ffynonellau hyn.[5]: 1 Mae effeithlonrwydd ynni yn cael ei wella gan y defnydd o bympiau gwres a cherbydau trydan. Os oes rhaid i brosesau diwydiannol greu carbon deuocsid, gall dal a storio carbon leihau allyriadau net.[6]
Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr o amaethyddiaeth yn cynnwys llosgnwy (methan) yn ogystal ag ocsid nitraidd. Gellir eu lleihau trwy ffermio llai o wartheg.[7][8]
Mae polisïau lliniaru newid hinsawdd yn cynnwys: prisio carbon trwy drethi carbon a masnachu allyriadau carbon, llacio rheoliadau ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy, gostyngiadau mewn cymorthdaliadau tanwydd ffosil, a dargyfeirio o danwydd ffosil, a chymorthdaliadau ar gyfer ynni glân.[9] Amcangyfrifir y bydd polisïau presennol y Ddaear yn codi tymheredd y Ddaear tua 2.7 °C erbyn 2100.[10] Mae'r cynhesu hwn yn sylweddol uwch na nod Cytundeb Paris 2016 o gyfyngu cynhesu byd-eang yn is na 2. °C ac yn ddelfrydol i lawr 1.5 °C.[11][12]
Gellir grwpio mesurau lliniaru i'r pedwar dosbarth canlynol.
Ynni cynaliadwy a thrafnidiaeth gynaliadwy
Arbed ynni (mae hyn yn cynnwys defnydd effeithlon o ynni)
Ar gyfer cynhyrchu amaethyddol a phrosesau diwydiannol: amaethyddiaeth gynaliadwy a pholisi diwydiannol gwyrdd
Gwella sinciau carbon: Cael gwared ar garbon deuocsid a dal a storio carbon
Nod, buddion a risgiau
Nod cyffredinol lliniaru newidiadau yn yr hinsawdd yw: “cadw biosffer a all gynnal gwareiddiad dynol a’r cymhlethdod o wasanaethau ecosystem sy’n ei amgylchynu a’i gefnogi. Mae hyn yn golygu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr anthropogenig (a grewyd gan bobl) tuag at sero net i gyfyngu ar y cynhesu hwn, gyda nodau byd-eang wedi'u cytuno yng Nghytundeb Paris."[13]
Gellir cyfrifo allyriadau nwyon tŷ gwydr fesul sector mewn gwahanol ffyrdd. Mae dull sefydledig gan 'Ein Byd mewn Data' yn eu grwpio fel a ganlyn (data ar gyfer 2016):
Ynni (trydan, gwres a thrafnidiaeth): 73.2%,
prosesau diwydiannol uniongyrchol: 5.2%,
gwastraff: 3.2%,
amaethyddiaeth, coedwigaeth a defnydd tir: 18.4 %.[3]
Cynhyrchu trydan a thrafnidiaeth yw'r allyrwyr mawr, a’r ffynhonnell unigol fwyaf yw gorsafoedd pŵer sy’n llosgi glo sef 20% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr.[15] Mae datgoedwigo a newidiadau eraill mewn defnydd tir hefyd yn allyrru carbon deuocsid a llosgnwy (methan). Y ffynhonnell fwyaf o allyriadau methan anthropogenig yw amaethyddiaeth, yn cael ei ddilyn yn agos gan awyru nwy ac allyriadau ffo o'r diwydiant tanwydd ffosil. Y ffynhonnell methan amaethyddol fwyaf yw da byw (gwartheg). Mae priddoedd amaethyddol yn gollwng ocsid nitraidd yn rhannol oherwydd gwrtaith ond ar y llaw arall, mae'r broblem o nwyon fflworinedig allan o oeryddion wedi'i ddatrys, nawr mae cymaint o wledydd wedi cadarnhau Gwelliant Kigali.[16]
Yn 2020 roedd y cyfraddau allyriadau ar gyfartaledd yn 6.5 tunnell y person y flwyddyn (gydag amrywiadau mawr o un wlad i'r llall).[17]
Y system ynni yw prif allyrrydd CO.[20]: 6–6 Felly mae lleihau allyriadau'r sector ynni yn hanfodol i gyfyngu ar gynhesu.[20]: 6–6 Mae angen gostyngiadau cyflym yn lefel y CO a’r allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r system ynni er mwyn cyfyngu cynhesu byd-eang i lai na 2. °C.[20]: 6–3 Mae'r mesurau a argymhellir yn cynnwys: "llai o ddefnydd o danwydd ffosil, mwy o gynhyrchiad o ffynonellau ynni carbon isel a di-garbon, a mwy o ddefnydd o drydan a chludwyr ynni amgen".[20]: 6–3
↑"It's critical to tackle coal emissions". blogs.worldbank.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-25. Coal power plants produce a fifth of global greenhouse gas emissions – more than any other single source.