Llid y glust ganol
Llid a achosir gan haint o facteria ar groniad o hylif yn y glust ganol yw llid y glust ganol (Lladin: otitis media).[1] DosbarthiadLlid acíwt y glust ganolHaint tymor byr sydd yn aml yn ymddangos yn sydyn yw llid acíwt y glust ganol.[1] Llid cronig y glust ganolHeintiau cyson neu un haint tymor hir yw llid cronig y glust ganol. Yn aml mae ganddo symptomau llai difrifol, ond gall achosi mwy o niwed na llid acíwt oherwydd nid yw nifer o gleifion yn sylwi arno am amser hir.[1] Clust ludiogLlid cronig pan fydd y glust ganol yn llenwi â hylif yw clust ludiog. Gan amlaf nid yw'n arwain at dwymyn, pigyn clust, na rhedlif crawn o'r glust.[1] Mae plant sydd â chlust ludiog ac mae eu clustiau'n llenwi â mwcws am gyfnodau o nifer o wythnosau yn fwy tebygol o gael haint ar y glust.[2] AchosionYn aml achoswyd llid y glust ganol gan haint yr annwyd cyffredin wrth iddo ledaenu o'r trwyn neu'r glust drwy'r bibell Eustachio gan rwystro'r bibell ac atal unrhyw hylifau yn y glust rhedeg allan drwy'r trwyn. Gall adenoidau neu donsiliau chwyddedig, sydd wrth gefn y gwddf, hefyd rwystro'r bibell Eustachio; mae'r achos hon yn fwy cyffredin mewn plant nag mewn oedolion.[2] Gall dympan drydyllog y glust achosi llid cronig y glust ganol os caiff ei heintio gan ddŵr yn mynd i mewn i'r glust, yn enwedig mewn plant. Gall golesteatoma, sef tyfiant o feinwe y tu mewn i'r glust ganol, hefyd achosi llid cronig y glust ganol. Mae'n bosib i system imiwnedd plentyn gwanháu oherwydd afiechyd plentyndod megis y frech goch gan arwain at haint eilaidd wrth i'r corff ei gael yn anodd i frwydro yn erbyn haint gan facteria yn y glust ganol.[2] Weithiau, nid oes rheswm amlwg dros haint sydd yn achosi llid y glust ganol.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia