Lleuad
Y Lleuad (enw benywaidd) neu'r Lloer (enw benywaidd; symbol: ) yw unig loeren naturiol sylweddol y Ddaear. Mae'r Lleuad yn troi o amgylch y ddaear mewn orbit o 27.3 diwrnod ac ei gyfartaledd pellter o'r ddaear yw 384,403 km. Fe gymer 1.3 eiliad i'r goleuni o'r haul a adlewyrchir oddi ar wyneb y Lleuad deithio i'r ddaear (yn ôl cyflymdra goleuni). Mae tua 500,000 o graterau ar ei hwyneb. Grym disgyrchiant sydd yn dal y lleuad yn ei horbit. Does fawr ddim atmosffer ganddi i'w hamddiffyn. Credir i'r lleuad gael ei ffurfio 4.46 biliwn[1] o flynyddoedd yn ôl, ychydig wedi i'r Ddaear gael ei ffurfio. Ceir sawl damcaniaeth ynghylch sut y crewyd y Lleuad, ond y fwyaf poblogaidd gan seryddwyr yw iddi gael ei ffurfio o ddarnau o'r Ddaear wedi i gorff enfawr o faint y blaned Mawrth wrthdaro a'r Ddaear. Gelwir y corff hwn yn Theia. Fe wnaeth dadansoddiad yn Awst 2018 gadarnhau am y tro cyntaf bod "tystiolaeth pendant" i ddweud bod dŵr ar ffurf rhew yn bodoli ar wyneb y Lleuad.[2] Mae dyddodion rhew i'w ganfod ar begynnau'r De a'r Gogledd er bod mwy i'w gael ym mhegwn y De, lle mae dŵr wedi ei ddal mewn ceudyllau a holltau mewn cysgod parhaol, sy'n ei ganiatau i barhau fel rhew ar yr wyneb am nad yw pelydrau haul yn eu cyrraedd.[3] Rocedi a gwrthrychau eraillY gwrthrych cyntaf a wnaed gan ddyn i gyrraedd y Lleuad oedd Luna 2 yn 1959, ac fe wnaeth Luna 3 yn yr un flwyddyn anfon yn ôl luniau o ochr bellaf y Lleuad. Cafodd y ddau ohonyn nhw eu lawnsio gan rocedi Sofietaidd. Ar 20 Gorffennaf 1969 glaniodd dau ofodwr Americanaidd yn y modiwl lleuad Eagle – sef rhan o'r llong ofod Apollo 11 – arni, ac un ohonynt, Neil Armstrong, oedd y dyn cyntaf i gerdded ar y lleuad. Rhwng 1969 a 1972, ymwelodd 27 o ddynion â'r Lleuad; cerddodd 12 ohonynt arni. Gadawodd y criw olaf, sef Eugene Cernan a Harrison Schmitt, yn 1972. Mae gan sawl gwlad gynllun i anfon pobl i'r Lleuad rywbryd yn y 30 blwyddyn nesaf, gan gynnwys y UDA a Tsieina. Dwy ochr y LleuadGan fod y Lleuad yn cymryd yr un cyfnod i droelli unwaith ac i fynd o amgylch y Ddaear unwaith, mae un ochr wastad yn wynebu i ffwrdd o'r Ddaear. Fe welwyd ochr arall y Lleuad am y tro cyntaf pan anfonodd y chwiliedydd gofod Luna 3 luniau ohoni yn ôl i'r Ddaear yn 1959. Mathau o leuad
Llanrwst, bore Gwener, Ionawr 21, 2011[4]
Dyma gafodd Twm Elias am leuad coch ar gyfer ei gyfrol “Am y Tywydd”:[5]
Cleirwy 15 Chwefror 1870: "He was ill with cold from this vicious poisonous east wind... The red round moon hanging over Clifford Hill. Owls hooting in the dusk across the Dingles[6]". Geirfa
Noson golau lleuad yw noson loergan. Mae gŵyl Kann al Loar a gynhelir yn flynyddol yn Landerne yn Llydaw yn ein harwain i ystyr ein gair. Ystyr Kann al Loar yw lleuad llawn, kann yn golygu gwyn (cymharer "bara can", "cannu" – to bleach) a loar yn golygu lloer. Fel enw ar ŵyl, mae hefyd yn chwarae ar debygrwydd kann i'r gair mwy cyfarwydd canu, sydd hefyd yn cael ei rannu rhwng y ddwy iaith – ac mae yna dipyn o hynny yn digwydd yn yr ŵyl hefyd: mae'r gair Landerneau ar y cap, gyda chromfachyn siap gewin o leuad ar ôl yr e, yn fodd i ddangos enw'r dref landerne yn Llydaweg, yn ogystal a'r enw Ffrangeg landerneau. Cefn gwladCynnydd a GwendidMae hi'n goel eitha cryf hyd yn oed heddiw fod y lleuad yn dylanwadu ar gyflwr pethau byw o bob math. H. y. wrth i'r lleuad gryfhau (neu ddod i'w llawnder) fe fyddai'n ysgogi tyfiant ac wrth iddi leihau, neu wanio, byddai egni pethau byw yn lleihau yn ogystal. O ganlyniad, arferai ffermwyr a garddwyr gynllunio'u gwaith o amgylch y lleuad ac yn darllen Almanac Caergybi neu Almanac y Miloedd i gael dyddiadau cyflyrau'r lleuad yn fanwl bob mis. Byddid yn hau yn y gerddi a'r caeau ar y cynnydd (yn chwarter cynta'r lleuad newydd os yn bosib) fel bod planhigion ifanc yn egino a thyfu a rhoddid ieir i orri fel bo'r cywion yn deor a chynyddu efo'r lleuad. Dyma'r adeg i hel planhigion meddyginiaethol hefyd fel eu bod yn fwy effeithiol. Yn ogystal byddai coed ffrwythau yn cael eu tocio a'u himpio a byddai priodasau a dîls busnes yn fwy llwyddiannus pe digwyddant pan fo'r lleuad ar gynnydd. Byddid hefyd yn lladd a halltu mochyn pan fo'r lleuad ar ei "chelder" (Morgannwg). Adeg gwendid neu "dywyllwch" y lleuad y dylsid tynnu chwyn o'r ddaear, pigo ffrwythau, tynnu llysiau, medi'r cnydau a thorri ffyn neu goed (er mwyn i'r coedyn aeddfedu'n iawn). Casglwyd ffrwythau gan y credid y byddai golau'r lleuad yn gwneud i'r ffrwythau bydru'n gynt. Llawnder y lleuad oedd yr adeg orrau i roi tarw i'r fuwch, myharen i'r defaid, a chawsai'r rhai fyddai'n priodi ar leuad llawn lond tŷ o blant. Dyma hefyd yr adeg orrau i gneifio'r defaid ac i dorri eich gwallt! Byddai'r lleuad llawn yn peri i ferched esgor, yn enwedig os oeddent eisoes ychydig yn hwyr – cymaint felly nes yr arferai Nyrs Jones (y fydwraig) o Nefyn alw'r lleuad llawn yn "Leuad Babis". Hen enwauBu'r lleuad lawn dros y canrifoedd yn goleuo'r nos inni a cheir enwau arni, fel "Hen Lantar y Plwy", "Canwyll y Plwy", "y Lanter Fawr" a "Haul Tomos Jôs" ac roedd hi'n arfer ar un adeg i gyfarfodydd ac eisteddfodau lleol gael eu cynnal oddeutu'r lleuad lawn – er mwyn i'r goleuni fod o gymorth i bobl gerdded adre liw nos. Câi y lleuad lawn gynta ar ôl Cyhydnos yr hydref (22ain o Fedi) ei galw'n "Lleuad Fedi" neu "Leuad y Cynheuaf", pryd y ceid y "Naw Nos Olau". Byddai'r Naw Nos Olau yn eithriadol o bwysig i ffermwyr ar un adeg oherwydd ei goleuni llachar – bron fel golau dydd am o leia' y 4 noson gynt, ac ar ôl y lleuad lawn ei hun. Roedd hyn yn eithriadol o hwylus at gario'r ysgubau ŷd i'r teisi ac am y byddai'r lleuad yn codi gyda'r machlud gellid dal ati i gario o'r caeau (h.y., cyn dyddiau'r dyrnwr medi) ymhell i'r nos – hyd y wawr pe bai angen. Lwc, anlwc a daroganDros y canrifoedd, a hyd yn oed yn 2018, cred rhai ei bod yn anlwcus gweld y lleuad newydd drwy wydr, neu drwy ganghennau coed am fod y gwydr, neu'r canghennau'n atal, neu "ddwyn", lwc dda cynnydd y lleuad. Ac mae rhai yn dangos eu harian i'r lleuad newydd neu'n troi'r arian drosodd yn eu poced – er mwyn iddo gynyddu efo'r lleuad. I sicrhau lwc dda arferai pobl Ceredigion godi eu hetiau'n barchus pan welid y lleuad newydd gynta a byddai'r merched yn bowio iddi. Mae'n lwcus gweld y lleuad newydd dros yr ysgwydd chwith ac os wnewch chi ddymuniad i leuad newydd gynta'r flwyddyn fe gaiff ei wireddu. Yn Sir Gaernarfon, pe gofynai bachgen neu ferch ifanc i'r lleuad newydd pwy fyddent yn eu priodi, fe fyddant yn siwr o weld eu darpar briod mewn breuddwyd y noson honno. LloerigFe dybid ers talwm fod y lleuad yn effeithio ar gyflwr meddyliol pobl, a tan tua canrif yn ôl roedd yn cael ei hystyried fel un o brif achosion gwallgofrwydd. Mae'r geiriau “Lunatic” yn Saesneg a "Lloerig" yn Gymraeg yn cyfeirio at hynny – ac mae'r Lunacy Act (neu Ddeddf Lloerigrwydd) 1842, yn dweud yn ddigon clir bod rhywun lloerig yn dioddef o "benwendid" yn y cyfnod a ddilynai'r lleuad lawn. Roedd yn anlwcus iawn cysgu yng ngolau'r lleuad oherwydd hynny – rhag ofn ichi fynd dan ei ddylanwad! Dyn neu Sgwarnog y LleuadCoel sy'n gyffredin drwy wledydd Ewrop yw y gallwch weld llun ar wyneb y lleuad, llun o hen ŵr yn cario baich o goed ar ei ysgwydd ac mai wedi ei alltudio yno yr oedd o am hel priciau tân ar y Sul! Arferid dweud hyn yng Nghymru tan yn ddiweddar, yn enwedig i blant. Ond yn yr India, Tsieina, Japan, a De Affrica sgwarnog neu gwningen a welir. Gwningen hefyd geir yn ysgrif-luniau'r Astec ym Mecsico i bortreadu'r lleuad. Cysylltir y sgwarnog â duwies y lleuad Geltaidd. Efallai bod adlais o'r cyswllt hwnnw yn yr hen stori am Melangell yn rhoi lloches i'r sgwarnog rhag helgwn y tywysog Brochfael ym Maldwyn? Cyfeiriadau
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).
|
Portal di Ensiklopedia Dunia