Llenyddiaeth Saesneg De AffricaUn o'r gweithiau pwysig cyntaf yn yr iaith Saesneg o Dde Affrica oedd The Story of an African Farm (1883) gan Olive Schreiner (1855–1920), nofel sy'n debyg i'r plassroman (nofel fferm) gan awduron Afrikaans. Roedd nifer o lenorion yr 20g yn ymdrin ag hiliaeth yn Ne Affrica a'r drefn apartheid, gan gynnwys Alan Paton (1903–88), awdur y nofelau Cry, the Beloved Country (1948) a Too Late the Phalarope (1953). Mae'n debyg taw'r ddau lenor Saesneg gwychaf o Dde Affica yn ail hanner yr 20g a'r 21g yw Nadine Gordimer (1923–2014) a J. M. Coetzee (g. 1940). Llenor arall o nod ydy Athol Fugard (g. 1932), sy'n adnabyddus am ei ddramâu gwrth-apartheid a'i nofel Tsotsi (1980). O'r 1970au ymlaen daeth nifer o lenorion croenddu i'r amlwg yn Ne Affrica drwy ysgrifennu yn yr iaith Saesneg. Miriam Tlali oedd y fenyw groenddu gyntaf i gyhoeddi nofel yn y wlad, Muriel at Metropolitan (1975). Bu'r ysgrifwr a nofelydd Lewis Nkosi (1936–2010) yn treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa yn alltud. Un o feirdd pwysicaf y wlad yw Mongane Wally Serote (g. 1944), ac mae Zakes Mda (g. 1948) wedi ennill sawl gwobr am ei ddramâu a'i nofelau, gan gynnwys The Heart of Redness (2000).
|
Portal di Ensiklopedia Dunia