Lleiandy Llanllugan
Lleiandy a sefydlwyd yn negawdau olaf y 12g yn Llanllugan, cantref Cedewain, Powys, oedd Lleiandy Llanllugan. Gorweddai ym mhlwyf Llanllugan i'r de-orllewin o Lanfair Caereinion mewn cwm sy'n aros yn ddigon diarffordd heddiw. Mae'n bosibl taw ffurf ar enw'r Santes Lluan a geir yn yr enw. HanesCyfeirir ato gan Gerallt Gymro a Dafydd ap Gwilym. Lleiandy Sistersaidd oedd Llanllugan, a sefydlwyd gan Maredudd ap Rhobert rhywbryd rhwng 1170 a 1190, efallai. Fel oedd yr arfer dan y drefn fynachaidd, rhoddwyd y lleiandy dan oruchwyliaeth Abaty Ystrad Marchell. Roedd Llanllugan yn un o ddau leiandy Sistersiaidd yng Nghymru, gyda Llanllŷr (Ceredigion). Cymuned fechan oedd Llanllugan, fel y gweddill o leiandai Cymru'r Oesoedd Canol. Gwisgoedd gwyn oedd gan y lleianod, yn ôl Dafydd ap Gwilym, sy'n cyfeirio atynt fel "rhai lliwgalch". Digwydd mewn cywydd gan y bardd sy'n anfon llatai (negesydd serch) at un o'r lleianod (y glochyddes, sydd eisoes yn gyfarwydd â charu) i'w pherswadio i gwrdd â'r bardd mewn coedwig:
Pan ddiddymwyd y mynachlogydd rhwng 1534 a 1536, cafwyd dim ond tair o leianod yno. Ni wyddom faint o leianod fu yno pan oedd ar ei anterth, ond mae'n annhebygol y bu mwy na thua dwsin yn trigo yno ar unrhyw un adeg. Yn 1337 gwnaethpwyd asesiad sy'n dangos fod pedair lleian ac un abades yno. Mae eglwys y lleiandy wedi goroesi fel eglwys plwyf Llanllugan, sef Eglwys y Santes Fair. Ceir ffenestr liw odidog yno sy'n dyddio i ddiwedd y 15g. Mae'n portreadu lleian (yr abades efallai) neu noddwraig. Mae lleoliad adeiladau'r gwfent ei hun yn ansicr ond mae'n bosibl eu bod ar y ddôl 200 m i'r de o'r eglwys. Ffynonellau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia