Llanwnda, Sir Benfro
Pentref bychan yng nghymuned Pen-caer, Sir Benfro, Cymru, yw Llanwnda.[1][2] Saif yng ngogledd y sir, tua milltir i'r gogledd o bentref Wdig, ger tref borthladd Abergwaun. Mae'n gorwedd wrth droed penrhyn Pen Caer ac yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Sefydlwyd eglwys hynafol Llanwnda gan y sant Gwyndaf Hen (neu Gwnda), un o feibion Emyr Llydaw, yn y 6g. Ceir chwech o feini Cristnogol cynnar wedi eu hymgorffori ym muroedd yr eglwys bresennol, yn cynnwys pedwar gyda chroesau Celtaidd arnynt. Ceir cefluniau sy'n cynrychioli mynachod efallai ar y ddau arall. Cawsant eu darganfod wrth adnewyddu'r eglwys yn 1881. Dywedir fod Asser wedi derbyn ei addysg gynnar yn Llanwrda. Am gyfnod bu bywoliaeth yr eglwys yn nwylo Gerallt Gymro. O'r eglwys ceir golygfeydd braf dros Pen Strwmbl a Charregwastad.[3] Cysylltir Sant Gwnda â chwedl werin yn yr ardal. Syrthiodd a thorri ei goes wrth geisio croesi ffrwd. Meltithiodd y ffrwd fel na allai pysgod nofio ynddi, ond mae'n dal i lifo o'r ffynnon sanctaidd ger yr eglwys.[3] Pobl
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Dinas |
Portal di Ensiklopedia Dunia