Llabedlys gwyrdd tywyll
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llabedlys gwyrdd tywyll (enw gwyddonol: Jungermannia atrovirens; enw Saesneg: dark-green flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Mae’r rhywogaeth hon ytn eitha cyffredin yn yr Alban, Iwerddon, gogledd Lloegr a Chymru. Dyma'r Jungermannia mwyaf cyffredin ac mae'n tyfu mewn ardaloedd calchfaen ac ar dywodfaen cyfoethog o waelod. Mae J. atrovirens yn wyrdd tywyll, ac yn amrywio o ran maint, ond fel arfer mae'n fach i ganolig ei faint gyda'r coesynnau'n 2–3 mm o led, a dail hyd at 1 mm o led a hir. Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg. Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma. ![]() ![]() Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia