Linz
![]() Prifddinas talaith Awstria Uchaf yng ngogledd Awstria yw Linz. Roedd y boblogaeth yn 188,968, sy'n ei gosod yn drydedd ymysg dinasoedd Awstria o ran poblogaeth. Saif Linz ar afon Donaw. Sefydlwyd hi gan y Rhufeiniaid dan yr enw Lentia, ac yn ddiweddarach daeth yn ganolfan fasnach bwysig dan yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Mae nawr yn ddinas ddiwydiannol bwysig. Bu nifer o enwogion yn byw yma ac yn eu plith y gwyddonydd Johannes Kepler a'r cyfansoddwr Anton Bruckner. Enwyd y brifysgol ar ôl Kepler a'r conservatorium ar ôl Bruckner. Yr enwocaf o gyn-drigolion Linz, fodd bynnag, yw Adolf Hitler, a dreuliodd y rhan fwyaf o'i ieuenctid yma, er iddo gael ei eni yn Braunau am Inn. Yn Linz y cyhoeddodd Hitler uniad gwleidyddol Awstria a'r Almaen, yr hyn a elwid yn Anschluss, yn 1938. Roedd ganddo gynlluniau mawr ar gyfer ail-adeiladu'r ddinas, ond dim ond pont y Niebelung dros yr afon a godwyd yn y diwedd. Mae Linz yn un o ddwy Brifddinas Ddiwylliannol Ewrop am 2009. |
Portal di Ensiklopedia Dunia