Commandeur des Arts et des Lettres, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Gwobr Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am yr Actores Orau, Oriel yr Anfarwolion Ohio, Gwobr Crystal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood
Roedd ei gyrfa actio mewn ffilmiau'n rhychwantu 75 mlynedd, o 1912, mewn ffilmiau-tawel, byrion, hyd at 1987. Gelwid Gish yn First Lady of American Cinema, ac mae'n cael ei chofio am dechnegau perfformio arloesol.[7][8]
Roedd Gish yn seren-ffilm poblogaidd o 1912 i'r 1920au, ac yn gysylltiedig â ffilmiau'r cyfarwyddwr D. W. Griffith, gan gynnwys ei rôl arweiniol yn y ffilm gros uchaf o'r cyfnod tawel, The Birth of a Nation (Griffiths; 1915). Ar ddechrau'r cyfnod ffilm-sain, dychwelodd i'r llwyfan, ac anaml iawn yr ymddangosodd mewn ffilm. ond gwnaeth hynny yn Duel in the Sun a oedd yn ffilm eitha dadleuol (1946) a'r ffilm gyffrous The Night of the Hunter (1955).
Gwnaeth hefyd lawer o waith teledu o ddechrau'r 1950au i'r 1980au a diweddodd ei gyrfa'n chwarae gyferbyn â Bette Davis yn y ffilm The Whales of August (1987).
Magwraeth
Ganed Gish yn Springfield, Ohio, y plentyn cyntaf i Mary Robinson McConnell (1876–1948) a James Leigh Gish (1873 [6] –1912) (a oedd o dras Lutheraidd yr Almaen). Roedd gan Lillian chwaer iau, Dorothy, a ddaeth hefyd yn seren ffilm boblogaidd.[9][10][11][12]
Roedd tad Gish yn alcoholig a gadawodd y teulu. Dechreuodd mam Gish actio i'w cefnogi. Symudodd y teulu i East St. Louis, Illinois, lle buont yn byw am sawl blwyddyn gyda modryb ac ewythr Lillian, Henry a Rose McConnell. Agorodd eu mam Majestic Candy Kitchen, a helpodd y merched i werthu popcorn a da-da i fynychwyr yr hen Theatr Majestic, a leolwyd y drws nesaf i'r siop. Mynychodd y merched Ysgol Sant Henry, lle buont yn actio mewn dramâu ysgol.
Pan losgodd y theatr wrth ymyl y siop candi, symudodd y teulu i Efrog Newydd, lle daeth y merched yn ffrindiau da gyda chymydog drws nesaf, Gladys Smith. Roedd Gladys yn blentyn-actores a wnaeth ychydig o waith i'r cyfarwyddwr D. W. Griffith ac yn ddiweddarach cymerodd yr enw llwyfan Mary Pickford. Pan oedd Lillian a Dorothy yn ddigon hen, fe ymunon nhw â'r theatr, yn aml yn teithio ar wahân mewn gwahanol gynyrchiadau. Buont hefyd yn cymryd swyddi modelu, gyda Lillian yn modelu i'r artist Victor Maurel, yn gyfnewid am wersi llais.
Gladys Smith a gyflwynodd y chwiorydd i'r cynhyrchydd D. W. Griffith. Roedd Gish yn 19 oed ar y pryd ond dywedodd ei bod yn 16.
Aelodaeth
Bu'n aelod o Ferched y Chwyldro Americanaidd am rai blynyddoedd.
[13][14]
Anrhydeddau
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Commandeur des Arts et des Lettres, Gwobr Anrhydeddus yr Academi (1970), Anrhydedd y Kennedy Center (1982), Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI (1984), Gwobr Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am yr Actores Orau (1987), Oriel yr Anfarwolion Ohio (1980), Gwobr Crystal (1979), seren ar Rodfa Enwogion Hollywood[15] .
Cyfeiriadau
↑Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
↑Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Mehefin 2024.
↑"Lillian Gish Biography". Bioandlyrics.com. 27 Chwefror 1993. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2009. Cyrchwyd 4 Hydref 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
↑"Pennsylvania Births and Christenings, 1709-1950," database, FamilySearch (https://familysearch.org/ark:/61903/1:1:V2NJ-LPH : 11 Chwefror 2018), Jas. Leonidas Gish, 11 Rhagfyr 1873; Christening, citing ZION EVANGELICAL LUTHERAN CHURCH, HUMMELSTOWN, DAUPHIN, PENNSYLVANIA; FHL microfilm 845,111.