Letsie III, brenin Lesotho
Letsie III (ganed David Mohato Bereng Seeiso; 17 Gorffennaf 1963) yw brenin cyfredol Lesotho yn neheudir Affrica. Fe olynnodd ei dad, Moshoeshoe II, pan erlydwyd hwnnw yn alltud yn 1990. Ail-orseddwyd ei dad am gyfnod byr yn 1995 ond bu farw mewn damwain car yn gynnar yn 1996, a daeth Letsie yn frenin unwaith eto. Fel brenin cyfansoddiadol mae'r rhan fwyaf o ddylestwyddau'r Brenin Letsie yn seremonïol.[1] Yn 2000, datganodd fod y clefyd HIV/AIDS yn y wlad yn argyfwng naturiol gan sbarduno ymateb cenedlaethol a rhyngwladol i'r epidemig.[2] BywgraffiadAddysgwyd ef yn Lloegr yn Ngholeg Ampleforth.[3] Oddi yno, aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Genedlaethol Lesotho lle graddiodd mewn Bagloriaeth yn y Celfyddydau yn y Gyfraith. Aeth ymlaen wedi i astudio ym Mhrifysgol Bryste (Diploma mewn Astudiaethau Cyfraith Loegr, 1986), Coleg Wolfson, Caergrawnt (Astudiaethau Datblygu, 1989), ac yna coleg amaethyddol Wye College, Swydd Caint (Economeg Amaethyddol). Gorffennodd ei astudiaethau yn 1989, gan ddychwelyd i Lesotho.[4] Urddwyd ef fel Prif Bennaeth Matsieng yn ardal Maseru ar 16 Rhagfyr 1089. Coronwyd ef ar 31 Hydref 1997 yn Stadiwm Setsoto. Bu Tywysog Siarl o Loegr yn y seremoni.[5] Ar 1 Rhagfyr 2016, yn Rhufain, apwyntiwyd y Brenin Letsie III 'Lysgennad Ewyllus Da Corff Bwyd ac Amaethyddiaeth (Food and Agriculture Organization)ar gyfer Maeth gan Brif Weithredwr y Corff, José Graziano da Silva.[6] Priodas a PhlantPriododd y Brenin Letsie yn 2000 ag Anna Karabo Motšoeneng, merch o dras gyffredin ac nid brenhinol, oedd yn astudio yr un pryd ag ef ym Mhrifysgol Genedlaethol Lesotho. Ar briodi newidiodd eu henw i'r Frenhines 'Masenate Mohato Seeiso. Mae ganddynt fab a dwy ferch:
Noddwr
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia