Leigh Hunt
Ysgrifwr, beirniad llenyddol a theatr, newyddiadurwr, a bardd o Sais oedd James Henry Leigh Hunt (19 Hydref 1784 – 28 Awst 1859) sy'n nodedig am ei gyfraniadau radicalaidd at gyfnodolion ac am ei gyfeillgarwch â'r beirdd Rhamantaidd Saesneg yn hanner cyntaf y 19g. Ei farddoniaeth amlycaf ydy'r telynegion Abou Ben Adhem a Jenny Kissed Me (1838) a'r gerdd hir The Story of Rimini (1816). Bywyd cynnarGanwyd James Henry Leigh Hunt ar 19 Hydref 1784 yn Southgate, Middlesex. Barddoniaeth
Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Juvenilia, yn 1801. Efelychir mydryddiaeth y Ffrancod a'r Eidalwyr yn ei farddoniaeth. Cyhoeddwyd nifer o'i gerddi gorau yn y cyfrolau Foliage (1818) a Hero and Leander, and Bacchus and Ariadne (1819). NewyddiaduraethGyda'i frawd John, lansiodd yr Examiner yn 1808, cylchgrawn wythnosol a oedd yn dadlau dros ddiddymiaeth, rhyddfreinio'r Catholigion, a diwygio'r Senedd a'r gyfraith droseddol. Ysgrifennodd Hunt erthyglau gwleidyddol a beirniadaeth theatr a'r celfyddydau cain ar gyfer y cyfnodolyn chwarterol Reflector yn 1810–11. Carcharwyd y brodyr Hunt yn 1813 am iddynt ladd ar Siôr, y Rhaglyw Dywysog. Parhaodd Leigh Hunt i ysgrifennu ar gyfer yr Examiner yn y ddalfa.[1] Fe'i rhyddhawyd o'r carchar yn 1815 a symudodd i Hampstead, ac yno yn gymydog i'r bardd Rhamantaidd John Keats. Yn ddiweddarach daeth hefyd yn gyfarwydd â Rhamantwr arall, Percy Bysshe Shelley, a bu'n hyrwyddo gwaith llenyddol ei gyfeillion yn yr Examiner. Aeth Hunt i'r Eidal yn 1822 i ymuno â Keats a Shelley, ac yno sefydlasant cylchgrawn The Liberal (1822–23), a fu'n fethiant. Cyhoeddodd nifer o'i ysgrifau gwychaf yn yr Indicator (1819–21) a'r Companion (1828), a bu'n cyfrannu at gyfnodolion eraill am weddill ei oes, yn eu plith y Tatler (1830–32) a'r London Journal (1834–35). Cyhoeddodd ei hunangofiant yn 1850. Bu farw yn Putney ar 28 Awst 1859 yn 74 oed. Cyfeiriadau
Darllen pellach
|
Portal di Ensiklopedia Dunia