Labia

Y gweflau lleiaf (labia minora) yn dangos eu pen allan o'r gweflau mwyaf (labia majora) wedi'i shafio

Gweflau ar ymyl gwain neu gont merch ydy labia. Gair lluosog ydyw; labiwm ydy'r unigol ond pur anaml y caiff y gair yma ei ddefnyddio. Mae'n dod o'r gair Lladin am wefus neu wefl. Mae'r labia yn rhan o'r fwlfa.

Maent i'w gweld o bopty i hollt Gwener ac maent wedi'u gwneud o feinwe a chroen. Dônt at ei gilydd jest o dan y cnwc Gwener (tu blaen y corff) gan orchuddio'r clitoris yn rhanol neu'n gyfan.

Mae'r rhan fwyaf o bobloedd y byd yn eu gorchuddio gyda dillad megis nicyrs, pais neu sgert. Er hyn, ceir rhai merched sy'n rhoi pindlws drwy'r croen.

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia