Kinshasa
Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yw Kinshasa (Léopoldville tan 1966). Fe'i lleolir yng ngorllewin y wlad ar lan ddeheuol Afon Congo. Saif Brazzaville, prifddinas Gweriniaeth y Congo, ar y lan gyferbyn. Kinshasa yw dinas fwyaf holl gyfandir Affrica gyda phoblogaeth o tua 14,565,700 (1 Gorffennaf 2020)[1]. Fe'i sefydlwyd fel canolfan fasnachol yn 1881 gan y Cymro Henry Morton Stanley o Lanelwy a enwodd y ddinas ar ôl Léopold II, brenin Gwlad Belg. Daeth Léopoldville yn brifddinas trefedigaeth Congo Felgaidd yn ystod y 1920au. Yn 1966 newidiwyd ei henw i Kinshasa, pentref bychan a oedd yma cyn y brifdinas, gan yr Arlywydd Mobutu Sese Soko. Ar un adeg roedd Kinshasa'n bentrefi pysgota a masnachu; mae Kinshasa bellach yn un o'r mega-ddinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Mae'n wynebu Brazzaville, prifddinas Gweriniaeth y Congo; y ddwy ddinas yma (Kinshasa' a Brazzaville) yw'r ddwy brifddinas agosaf at ei gilydd yn y byd. Mae dinas Kinshasa hefyd yn un o 26 talaith y wlad. Oherwydd bod ffiniau gweinyddol y ddinas-dalaith yn gorchuddio ardal helaeth, mae dros 90 y cant o dir y ddinas-dalaith yn wledig ei natur, ac mae'r ardal drefol yn meddiannu rhan fach, ond sy'n ehangu ar yr ochr orllewinol.[2] Kinshasa yw trydydd ardal fetropolitan fwyaf Affrica, ar ôl Cairo a Lagos.[3] Hi hefyd yw ardal drefol Ffrangeg ei hiaith fwyaf y byd, gyda'r Ffrangeg yn iaith llywodraeth, addysg, y cyfryngau, gwasanaethau cyhoeddus a masnach, tra bod Lingala yn cael ei defnyddio fel iaith pob dydd ar y stryd.[4] Cynhaliodd Kinshasa 14eg Uwchgynhadledd Francophonie ym mis Hydref 2012.[5] Gelwir dinasyddion Kinshasa yn "Kinois" (yn Ffrangeg ac weithiau yn Saesneg) neu Kinshasans (Saesneg). Mae pobl frodorol yr ardal yn cynnwys yr Humbu [fr] a Teke. Hanes![]() Sefydlwyd y ddinas fel man masnachu gan y Cymro (a'r perchennog caethwaesion Henry Morton Stanley ym 1881.[6] Cafodd ei henwi’n "Léopoldville" er anrhydedd i’r Brenin Leopold II o’r Belgiaid, a oedd yn rheoli Gwladwriaeth Rydd y Congo, y diriogaeth helaeth sydd bellach yn Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo, nid fel trefedigaeth ond fel eiddo preifat. Ffynnodd y pentre masnachu hwn fel y porthladd cyntaf ar Afon Congo uwchben Rhaeadr Livingstone, cyfres o ddyfroedd gwyllt dros 300 cilomedr (190 milltir) islaw Leopoldville. Ar y dechrau, roedd yn rhaid i borthorion rhwng Léopoldville a Matadi gario'r holl nwyddau sy'n cyrraedd ar y môr neu'n cael eu hanfon ar y môr, gan fod y porthladd 150 km (93 milltir) o'r arfordir. Roedd cwblhau rheilffordd porthladd Matadi-Kinshasa, ym 1898, yn darparu llwybr amgen o amgylch y dyfroedd gwyllt ac yn sbardun i ddatblygiad cyflym Léopoldville. Ym 1914, gosodwyd pibell cludo olew crai o Matadi i'r cychod stemars i fyny'r afon yn Leopoldville.[7] Erbyn 1923, roedd y ddinas wedi'i dyrchafu'n brifddinas 'Congo Gwlad Belg', gan ddisodli tref Boma yn aber y Congo.[7] Daeth y dref, a alwyd ar lafar am gryn amser yn "Léo" neu "Leopold", yn ganolfan fasnachol a thyfodd yn gyflym yn ystod y cyfnod trefedigaethol. ![]() Ar ôl ennill ei hannibyniaeth ar 30 Mehefin 1960, yn dilyn terfysgoedd ym 1959, etholodd Gweriniaeth y Congo ei phrif weinidog cyntaf, Patrice Lumumba. Roedd gogwydd Sofietaidd Lumumba yn cael ei ystyried yn fygythiad gan fuddiannau'r Gorllewin. Dyma anterth y Rhyfel Oer, ac nid oedd yr Unol Daleithiau na Gwlad Belg eisiau colli rheolaeth ar gyfoeth strategol y Congo, oherwydd ei wraniwm. Lai na blwyddyn ar ôl etholiad Lumumba, prynodd y Belgiaid a’r Unol Daleithiau gefnogaeth ei gystadleuwyr Congolese a llofruddiwyd Lumumba.[8] Ym 1965, gyda chymorth yr Unol Daleithiau a Gwlad Belg, cipiodd Joseph-Désiré Mobutu rym yn y Congo. Cychwynnodd bolisi o "Ddilysu" enwau pobl a lleoedd drwy'r wlad. Ym 1966, ailenwyd Léopoldville yn Kinshasa, ar ôl pentref o'r enw Kinshasa a arferai sefyll ger y safle, heddiw Kinshasa (cymuned). Tyfodd y ddinas yn gyflym o dan Mobutu, gan ddenu pobl o bob cwr o'r wlad a ddaeth i chwilio am eu gyfoeth, neu i ddianc rhag problemau ethnig mewn man arall, gan ychwanegu felly at y nifer fawr o wahanol ethnigrwydd ac ieithoedd oedd yno'n barod. Yn y 1990au, cychwynnodd gwrthryfel a oedd erbyn 1997 wedi dymchwel cyfundrefn Mobutu.[7] Dioddefodd Kinshasa yn fawr oherwydd Mobutu: llygredd a rhoi swyddi i'w deulu ei hun, yn bennaf, a'r rhyfel cartref a arweiniodd i'w gwymp. Serch hynny, mae'n dal i fod yn ganolfan ddiwylliannol a deallusol o bwys ar gyfer Canolbarth Affrica, gyda chymuned lewyrchus o gerddorion ac artistiaid. Dyma hefyd brif ganolfan ddiwydiannol y wlad, gan brosesu llawer o'r cynhyrchion naturiol y wlad. Yn y 2010au bu’n rhaid i’r ddinas orfod atal milwyr y wlad, a oedd yn protestio oherwydd methiant y llywodraeth i dalu eu cyflog. Nid oedd Joseph Kabila, llywydd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo rhwng 2001-2019, yn boblogaidd iawn yn Kinshasa.[9] Dechreuodd trais yn dilyn y cyhoeddiad am fuddugoliaeth Kabila yn etholiad 2006; bu'n rhaid i'r Undeb Ewropeaidd danfon milwyr (EUFOR RD Congo) i ymuno â llu'r Cenhedloedd Unedig yn y ddinas. Arweiniodd y cyhoeddiad yn 2016 y byddai etholiad newydd yn cael ei ohirio at ddwy flynedd o brotestiadau mawr ym mis Medi ac ym mis Rhagfyr; roedd y protestiadau'n cynnwys barricadau ar y strydoedd bu dwsinau o bobl farw. Caewyd ysgolion a busnesau am gryn amser.[10][11] DaearyddiaethDinas o wrthgyferbyniadau yw Knshasa, gydag ardaloedd preswyl a masnachol cyfoethog a thair prifysgol ochr yn ochr â slymiau gwasgarog. Fe'i lleolir ar hyd glan ddeheuol Afon Congo, ac yn union gyferbyn â dinas Brazzaville, prifddinas Gweriniaeth y Congo.[12] Afon Congo yw'r ail afon hiraf yn Affrica ar ôl Afon Nîl, ac mae mwy o gyfaint o ddwr yn llifo drwyddi nac unrhyw afon arall ar Gyfandir Affrica. Fel dyfrffordd, mae'n darparu dull cludo ar gyfer llawer o fasn y Congo; gellir ei fordwyo ar gychod rhwng Kinshasa a Kisangani; mae llawer o'i llednentydd hefyd yn fordwyol. Dyma ffynhonnell bwysig o Egni hydro, ac i lawr yr afon o Kinshasa mae ganddi botensial i gynhyrchu digon o bŵer i hanner poblogaeth Affrica.[13] Demograffeg![]() Yn ôl Cyfrifiad 1984 roedd 2.6 miliwn o ddinasyddion.[14] Yr amcangyfrif ar gyfer 2005 oedd rhwng 5.3 miliwn a 7.3 miliwn.[12] Yn 2017, roedd gan y ddinas boblogaeth o 11,855,000.[15] Yn ôl UN-Habitat, mae 390,000 o bobl yn symud i fewn i Kinshasa yn flynyddol, gan ddianc o ryfeloedd neu'n chwilio am fywyd gwell. Mae llawer yn arnofio ar gychod neu rafftiau i lawr Afon Congo.[16] Yn ôl amcanestyniad (2016) bydd poblogaeth Kinshasa metropolitan yn cynyddu’n sylweddol, i 35 miliwn erbyn 2050, 58 miliwn erbyn 2075 ac 83 miliwn erbyn 2100,[17] gan ei wneud yn un o'r ardaloedd metropolitan mwya'r byd. IaithEr mai Ffrangeg yw iaith swyddogol y Congo, ceir 4 iaith genedlaethol; Kongo, Lingala, Swahili, Tshiluba. Lingala yw prif iaith Kinshasa a gogledd orllewin Congo ac i fewn i Weriniaeth y Congo. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia