Katharine Ross
Actores o Unol Daleithiau America yw Katharine Ross (ganwyd 29 Ionawr 1940) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel sgriptiwr, actor, awdur plant, actor llwyfan , actor teledu ac actor ffilm Bywyd CynnarGanwyd Ross yn Hollywood, California, ar Ionawr 29, 1940, pan oedd ei thad, Dudley Ross, yn y Llynges. Roedd hefyd wedi gweithio i'r Associated Press. Yn ddiweddarach ymgartrefodd ei theulu yn Walnut Creek, California, i'r dwyrain o San Francisco, a graddiodd o Ysgol Uwchradd Las Lomas ym 1957.[1] Roedd Ross yn marchog brwd yn ei hieuenctid ac roedd yn ffrindiau â Casey Tibbs, marchog rodeo.[2] GyrfaAstudiodd yng Ngholeg Iau Santa Rosa am flwyddyn (1957–1958) lle cafodd ei chyflwyno i actio trwy gynhyrchiad o The King and I. Gadawodd y cwrs a symud i San Francisco i astudio actio. Ymunodd â Gweithdy'r Actorion a bu gyda nhw am dair blynedd (1959-1962) Am un rôl yn The Balcony gan Jean Genet, ymddangosodd hi'n noethlymun ar y llwyfan. Ym 1964, cafodd ei castio gan John Houseman fel Cordelia mewn cynhyrchiad o King Lear.[3][4] Aeth Ross ymlaen i gael gyrfa hynod lwyddiannus mewn Ffilm a theledu. Fe ymddangosodd mewn sawl sioe deledu yn y 1960au gan gwneud ei ymddangosiad ffilm cyntaf yn Shenandoah ym 1965. Llofnododd gontract gyda Universal ond gwnaeth ffilmiau gyda'r MGM hefyd.[5] Yn 1967 enillodd enwogrwydd yn chwarae rhan Elaine Robinson yn y ffilm boblogaidd The Graduate, ochr yn ochr â Dustin Hoffman. Enillodd hi Golden Globe ac enwebiad am Oscar am y rôl yma. Enillodd Golden Globe hefyd am eu rol yn Voyage of the Damned ym 1978. Yn ddiweddarach yn ei gyrfa ymddangosodd yn Donnie Darko.[6], Don't Let Go, a fel cyn-wraig Sam Elliott yn The Hero yn 2017 Mae Ross wedi sefydlu ei hun fel awdur, gan gyhoeddi sawl llyfr plant. Ffilmiau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia