Karaez-Plougêr
Mae Karaez-Plougêr (Ffrangeg: Carhaix-Plouguer) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Ar Vouster, Plevin, Trefrin, Cléden-Poher, Kergloff, Motreff, Plounévézel, Saint-Hernin ac mae ganddi boblogaeth o tua 7,326 (1 Ionawr 2022). Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Mae pencadlys Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN) yn y dre, yn adeilad Ti ar Vro, 6 plasenn Gwirioù Mab-den. Mae gan ELEN 174 o aelod-sefydliadau yn cynrychioli 50 o ieithoedd mewn 25 gwladwriaeth.[1] PoblogaethPellteroedd
Cysylltiadau RhyngwladolMae Karaez-Plougêr wedi'i gefeillio â: LlydawegLansiodd y Karaez-Plougêr cynllun ieithyddol trwy Ya Brezhoneg ar 9 Ebrill, 2004. Mae gan y ddinas ysgol gynradd ac ysol uwchradd Diwan (sef yn yr unig Lycée Diwan yn Llydaw). Yn 2008, mynychodd 21.49% o blant ysgol gynradd ysgolion dwyieithog.[2] DiwylliantMae Karaez-Plougêr yn gartref i Gouel yn Kozh Erer; (Gŵyl yr Hen Erydr) sef ŵyl gerddorol fwyaf Ffrainc, gan ddenu mwy na 200,000 mynychwyr bob blwyddyn. Yn Hydref 2016 trefnodd yr ŵyl cyngerdd arbennig yn Central Park, Efrog Newydd mewn teyrnged i'r nifer o Lydäwyr a fewnfudodd i'r ddinas yn y 19g. Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia