Judi Dench
Mae Judith Olivia Dench, CH, DBE, FRSA, (ganwyd 9 Rhagfyr 1934), a adnabyddir fel Judi Dench, yn actores Seisnig. Mae hi wedi ennill naw BAFTA, saith Gwobr Laurence Olivier, dwy Wobr y Gymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr yr Academi, dwy Wobr Golden Globe a Gwobr Tony. Bywyd PersonolGanwyd Judy Dench yn Efrog, Gogledd Riding yn Swydd Efrog, yn ferch i Eleanora Olave (née Jones), a ddaethai o Ddulyn yn wreiddiol, a Reginald Arthur Dench, doctor a gyfarfu a mam Judi tra'n astudio meddygaeth yng Ngholeg y Drindod. Magwyd Dench fel Crynwr a thrigai yn Tyldesley, Manceinion Ehangach. Mae ganddi berthnasau enwog, gan gynnwys ei brawd, yr actor Jeffrey Dench a'i nith Emma Dench, hanesydd Rhufeinig ym Mhrifysgol Llundain ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Harvard, Caergrawnt, Massachusetts. Pan oedd Dench yn 13 oed, mynychodd The Mount School, Efrog. Ym 1971, priododd Dench yr actor Prydeinig Michael Williams a chawsant eu hunig blentyn, Tara Cressida Williams (aka "Finty Williams"), ar y 24ain o Fedi 1972. Dilynodd hithau yn olion traed ei rhieni, gan ddod yn actores cydnabyddedig ei hun. Perfformiodd Dench a'i gŵr gyda'i gilydd mewn nifer o gynhyrchiadau llwyfan, yn ogystal ag ar wahan, ond cyd-weithiodd y ddau gyda'i gilydd yng nghomedi sefyllfa Bob Larbey, A Fine Romance (1981–84). Bu farw Michael Williams o gancr yr ysgyfaint yn 2001, yn 65 oed. Yn hunangofiant Laurence Olivier Confessions of an Actor (Weidenfeld & Nicolson, 1982), disgrifiodd Dench fel 'the scrumptious Judi Dench'. Bywyd CyhoeddusYm Mhrydain, ystyrir Dench fel un o'r actorion gorau ers yr Ail Rhyfel Byd, yn bennaf oherwydd ei gwaith yn y theatr a fu'n un o'i chryfderau trwy gydol ei gyrfa. Fwy nag unwaith, mae Dench wedi cael ei dewis fel un o actorion gorau'r DU. Rhoddwyd OBE i Dench ym 1970 a chynyddodd ei phoblogrwydd pan gymrodd rôl M yn y gyfres ffilm James Bond ym 1995. Mae Dench hefyd yn noddwraig The Leaveners, Friends School Saffron Walden a Theatr the Archway, Horley, DU. Daeth yn lywydd Academi Mountview ar gyfer Celfyddydau'r Theatr yn Llundain yn 2006, gan gymryd drosodd o Syr John Mills. Hi yw llywydd y Theatr Questors hefyd. Ym Mai 2006, daeth yn Gymrawd Anrhydeddus o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Mae hi hefyd yn noddwraig i Ysgol Ovingdean Hall, ysgol ddydd a phreswyl ar gyfer y byddar a'r trwm eu clyw yn Brighton. Mae Dench yn Gymrawd Anrhydeddus yng Ngholeg Lucy Cavendish, Caergrawnt. Yn 2000-2001 derbyniodd radd anrhydeddus o Brifysgol Durham. Ar y 24ain o Fehefin 2008, rhoddwyd gradd anrhydeddus (D.Litt) iddi gan Brifysgol St Andrews yn seremoni graddio'r brifysgol. Filmography
|
Portal di Ensiklopedia Dunia