Joseph Beuys
Cerflunydd avant-garde a pherfformiwr o'r Almaen oedd Joseph Heinrich Beuys (12 Mai 1921 – 23 Ionawr 1986). Roedd ei waith yn nodweddiadol am fod yn anghonfensiynol a phrofoclyd. Roedd yn aelod amlwg o'r mudiad celf arbrofol Fluxus o'r 1960au i'r 1970au.[1] Bywyd cynnar![]() Ganwyd yn Krefeld, Yr Almaen. Pam roedd yn ifanc daeth y Natsïwyr i’r grym ac yn 1940, yn 19 oed, ymunodd â llu awyr i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd. Dywedodd Beuys pan roedd yn ymladd yn Rwsia cafodd ei awyren ei saethu i lawr a wnaeth bobl nomadiaid Tatar ei ddarganfod yn gorwedd yn anymwybodol yn yr eira. Dywedodd sut cafodd ei achub ganddynt a’i nyrsio gan lapio ei gorff mewn ffelt a saim anifeiliaid. Defnyddiodd Beuys y stori nes ymlaen gan ddweud roedd y profiad yn ysbrydoliaeth i lawr o’i waith celf. Mae cofnodion swyddogol, beth bynnag, yn gwrth-ddweud y stori gan ddweud cafodd Beuys ei arbed gan filwyr Almaeneg. Cafodd ei anafu sawl tro arall yn ystod y rhyfel a chafodd ei gadw mewn gwersyll carcharorion Prydeinig.[1] O 1947 i 1951 astudiodd gelf yn Düsseldorf ac yn 1961 fe'i benodwyd yn athro cerfluniaeth yn Academi Gelf y dref ond gollodd ei swydd yn 1972 ar ôl iddo gadael faint bynnag o bobl oedd eisiau dod i’w ddosbarthiadau – ac am ddim. Roedd hefyd yn weithgar mewn gwleidyddiaeth. Gwaith![]() Yn 1962 cyflwynwyd Beuys i gelf perfformio (Performance art) a daeth yn rhan o'r mudiad celf arbrofol Fluxus, rhwydwaith anffurfiol o artistiaid, beirdd a cherddorion ar draws y byd oedd am herio syniadau celf traddodiadol. Roedd yr aelodau yn cynnwys John Cage, Yoko Ono a John Cale. Ysbrydolwyd Fluxus gan Marcel Duchamp a'r mudiad celfyddydol Dada yn y 1920au, yn arbennig gan eu syniad o anti-art.[2] Mae'r enw Fluxus yn adlewyrchu'r syniad o'u gweithgareddau heb fod yn llonydd, ond yn llifo mewn newid parhaus. Roedd Fluxus yn aml yn pwysleisio agwedd 'D-I-Y gwneud eich hun' a bod y cymryd rhan mewn proses greadigol yn bwysicaf na'r canlyniad terfynol. Ceisiodd Fluxus dorri'r arferiad o gelf ond yn cael ei ystyried fel rhywbeth sy’n cael ei hongian ar wal mewn oriel ffurfiol er mwyn i’r cyhoedd ei barchu. Roedd y syniad o weithgareddau celf byw Happenings yn ysbrydoliaeth fawr i Beuys. Gwahoddodd nifer o artistiaid Fluxus i berfformio yn Düsseldorf a pherfformiodd ddau Action ei hun. Yn 1965 perfformiodd un o'i weithfeydd enwocaf wie man dem toten Hasen die Bilder erklärt (sut mae eglurio lluniau i'r sgwarnog) – gan gerdded o amgylch oriel gelf gyda sgwarnog marw yn ei ddwylo fel parodi am yr arferiad o 'egluro celf i'r cyhoedd'.[3][4] Yn I Like America and America Likes Me, 1974 Efrog Newydd perfformiodd yn un arall o’i Actions enwogaf. Y teitl yn dangos gwrthwynebid cryf Beuys i fateroliaeth a rhyfelgarwch America. Fe’i lapiodd ei hun mewn ffelt wrth gyrraedd maes awyr Efrog Newydd a gyrrwyd mewn cefn ambiwlans heb gyffwrdd tir Americanaidd. Wedyn treuliodd dri diwrnod mewn caetsh gyda choyote gwyllt. Ar ddiwedd y tri diwrnod fe’i ail lapiwyd mewn ffelt a gyrrwyd yn ôl i’r maes awyr. Defnyddiodd y metaffor o’r coyote mewn sawl darn arall o waith, gan geisio cyfleu sut roedd yr anifail yn cael ei barchu gan bobl gynhenid America ond yn cael ei erlid gan bobl ‘wareiddiedig’ wyn. Yn y 1970au ymddiddorodd ym fwy mewn siamaniaeth a dewiniaeth pobloedd gynhenid gan adrodd stori ei achubiaeth gan nomadiaid Tartar a sut lapion nhw ei gorff mewn ffelt a saim i arbed i fywyd fel metaffor am yr angen i ofalu, maethu a pharchu’r cyd-ddyn a’r natur. Teithiodd ac arddangos yn aml yn Iwerddon a’r Alban gan ymddiddori yn draddodiadau'r hen Geltiaid.[5] Mae Bueys bellach yn cael ei weld fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol Ewrop wedi’r ail ryfel byd. Fel llawer o Almaenwyr eraill y cyfnod roedd yn ceisio dod i delerau a deall troseddau’r Natsïwyr ac erchylltra’r rhyfel. Trwy ei waith ceisiodd Beuys annog trawsnewid cymdeithas i fod yn fwy heddychol a chreadigol trwy herio syniad traddodiadol a materol trwy ei amrywiaeth eang o gerfluniau, perfformiadau, darlithiodd a gweithredodd.[1] Yn Eisteddfod 1977 cynhaliwyd protest tu allan i’r Babell Gelf ble roedd arddangosfa o waith gan Beuys a sawl artist rhyngwladol arall. Arweiniodd y protest gan Paul Davies ac aelodau eraill y Grŵp Celf Beca a oedd am ddenu sylw i’r ffaith nad oedd artistiaid o Gymru wedi cael eu gwahodd i arddangos hefyd. [6][7] Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia