Jonjoe Kenny
Mae Jonjoe Kenny (ganwyd 15 Mawrth 1997) yn bêl-droediwr sy'n chwarae i Everton F.C. a Lloegr dan 21. Mae'n enedigol o Lerpwl, Lloegr. Ymddangosodd yn gyntaf yn yr Uwch Gynghrair i Everton F.C., gan ddod yn lle Matthew Pennington yn erbyn Norwich City, ar 15 Mai 2016.[1] Roedd ei ail ymddangosiad yn yr uwch gynghrair yn eilydd eto, ar gyfer Mason Holgate yn erbyn C.P.D. Dinas Abertawe ar 6 Mai 2017. Mae Jonjoe Kenny wedi bod yn rhan o dimau Lloegr dan 16,17,18,19,20 a 21. Chwaraeodd tair waith i Loegr dan 16, 10 gwaith i Lloegr dan 17 gan sgorio unwaith, tair gwaith i Loegr dan 18, 10 gwaith i Loegr dan 19, 14 gwaith i Loegr dan 20 ac 13 gwaith i Loegr dan 21. Bu'n chwarae pêl-droed yn proffesiynol ers Gorffennaf 2014 ac ymunodd gydag academi Everton pan oedd yn naw oed. Gwobrau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia