Jonathan Winters
Digrifwr ac actor Americanaidd oedd Jonathan Harshman Winters III (11 Tachwedd 1925 – 11 Ebrill 2013).[1] Ganwyd yn Dayton, Ohio, yn unig blentyn. Ymunodd â Chorfflu'r Môr-filwyr yn 17 oed a gwasanaethodd am ddwy flynedd yn ne'r Cefnfor Tawel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dychwelodd i Ohio a mynychodd Athrofa Celfyddyd Dayton, a phriododd ei gyd-fyfyriwr Eileen Schauder ym 1948. Cychwynnodd ei yrfa ar radio, a symudodd i Ddinas Efrog Newydd i berfformio comedi. Roedd Winters yn un o arloeswyr comedi ar ei sefyll Americanaidd yn y 1950au. Yn hytrach na dweud jôcs traddodiadol bu'n defnyddio arddull "llif ymwybod", gydag elfen swreal i'w hiwmor. Roedd yn berfformiwr bywiog oedd yn britho ei ymsonion gydag effeithiau sŵn ac ystumiau wynebol. Roedd ganddo ddawn am ddynwared a chreu cymeriadau difyfyr.[2] Ymhlith ei ffilmiau mae It’s A Mad, Mad, Mad, Mad World (1963), ac ymddangosodd ar deledu yn Mork & Mindy (1978–82). Roedd ganddo anhwylder deubegwn a bu'n dioddef o waeleddau nerfol.[3] Cafodd ddau blentyn gyda'i wraig, Eileen, a fu farw yn 2009. Bu farw Jonathan Winters yn 87 oed yn ei gartref ym Montecito, Califfornia, yn 2013.[4][5] Enillodd Wobr Mark Twain am Hiwmor gan Ganolfan Kennedy ym 1999.[2] Dywedodd y cyflwynydd sioe sgwrs Jack Parr amdano: "bwys am bwys, y dyn mwyaf ddoniol yn fyw".[6] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia