John Pryse
Roedd Siôn ap Risiart ap Rhys ap Dafydd Llwyd, neu John Pryse (bu farw 1584), yn fab i Richard Prys Gogerddan[1][2] Bu'n briod ddwywaith yn gyntaf i Elizabeth merch. Syr Thomas Perrot, Haroldstone, Sir Benfro, bu iddynt dau fab Richard Pryse a Thomas Pryse. Ar ôl marwolaeth Elizabeth priododd Bridget, merch James Pryse, Mynachdy, Sir Faesyfed Astudiodd i fod yn fargyfreithiwr yn y Deml Ganol o fis Chwefror 1555 a'i godi yn feinciwr y Deml ym 1668 Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Ceredigion ac Uchel Siryf Meirionnydd ym 1580. Gwasanaethodd fel aelod Cyngor y Mers, fel Aelod Seneddol Ceredigion 1553-1554 a 1563-1584 ac fel Custos Rotulorum Ceredigion rhwng 1558 a 1579. Profwyd ei ewyllys ym 1584 Olynwyd ef fel penteulu Gogerddan ac fel AS Ceredigion gan ei fab Richard Pryse Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia