John Parry (Y Telynor Dall)
Cerddor enwog o Nefyn yn Llŷn, Gwynedd oedd John Parry (1710? - Hydref 1782), a adnabyddid fel Y Telynor Dall a John Parry Ddall neu Parry Ddall Rhiwabon. Fel mae ei lysenw yn awgrymu, roedd yn ddall o'i enedigaeth. GyrfaGaned John Parry yn Nefyn yn 1710 (yn ôl pob tebyg). Roedd yn delynor medrus a noddwyd i ddechrau gan y teulu Griffiths o ystad Cefn Amwlch ym Mryn Cynan, Llŷn. Yn nes ymlaen, daeth yn delynor teuluol i Syr Watkin Williams-Wyn ym mhlas Wynnstay, ger Rhiwabon, cartref y teulu Williams Wyn (Wyniaid Wynnstay). Aeth i Lundain yng nghwmni Syr Watkin lle cafodd ei gyflwyno i gylchoedd uchel y ddinas. Enillodd fri mawr fel un o delynorion disgleiriaf ei oes. Bu galw mawr am ei berfformiadau yng Nghymru a'r tu hwnt, a chwaraeodd yn Llundain, Dulyn a Rhydychen. John Parry oedd yr ysbrydoliaeth i'r bardd Seisnig Thomas Gray ysgrifennu ei gerdd ramantaidd ddylanwadol The Bard (1757). Cyhoeddodd dri llyfr sydd â lle pwysig yn hanes cerddoriaeth Cymru, gan cynnwys Antient British Music (1742), a ddaeth ag ef i sylw cynulleidfa eang (am 'British' darllener 'Cymreig/Cymraeg'). Roedd mab John Parry, William Parry (1752-1791), yn artist dawnus. Paentiodd luniau o'i dad sydd i'w gweld yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd heddiw. LlyfryddiaethLlyfrau John Parry
Cofiant
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia