John Mills (Ieuan Glan Alarch)
Cerddor ac awdur o Gymru oedd John Mills (19 Rhagfyr 1812 – 28 Gorffennaf 1873), a adnabyddir gan amlaf wrth ei enw barddol Ieuan Glan Alarch. BywgraffiadRoedd yn frodor o Lanidloes, ym Maldwyn, Powys. Ar ôl treulio ei ieuenctid yn ei fro enedigol daeth yn weinidog a bu'n gwasanaethu yn Rhuddlan, Sir Ddinbych ac, yn ddiweddarach, yn Llundain, Lloegr. Tra yn Llundain ymgymerodd â gwaith cenhadol ymysg yr Iddewon yno. Sbardunodd hynny ddiddordeb mewn hanes yr Iddewon yng ngwledydd Prydain a'r ffrwyth oedd cyfrolau megis Iddewon Prydain (1852) a British Jews (1853). Yng Nghymru fe'i cofir yn bennaf fel awdur ar bynciau cerddorol a gyhoeddodd sawl cyfrol megis Gramadeg Cerddoriaeth (1838) ac Elfennau Cerddorol (1848), wedi'u hanelu at ddarllenwyr ymysg y werin bobl. Ef a sefydlodd y cylchgrawn diwylliannol Y Beirniadur Cymreig hefyd, yn 1845; cyfrannodd sawl erthygl iddo. Llyfryddiaeth
Ffynhonnell
|
Portal di Ensiklopedia Dunia