John Jones (Eos Bradwen)
Roedd John Jones (Eos Bradwen) (16 Hydref, 1831 – 29 Mai, 1899) yn gerddor, cyfansoddwr a bardd Cymreig CefndirGanwyd Eos Bradwen yn Maesybwlch, ger Tal-y-llyn, Sir Feirionnydd (Gwynedd bellach) , yn blentyn i William Jones ac Elizabeth (née Williams). Chwarelwr yng ngwaith llechi Aberllefenni oedd ei dad. [1]Roedd teulu ei fam yn un tra cherddorol, ei thad hi oedd Thomas Williams, arweinydd y gân yng Nghapel Rheoboth, Corris.[2] GyrfaSwydd gyntaf Eos Bradwen oedd fel chwarelwr yn chwarel Gaewern, Corris [3] Mae David Owen Corris yn ei gofio yn cyfansoddi tonau tra wrth ei waith yn y chwarel "Yr wyf yn ei gofio yn dda yn gweithio yn fy ymyl yn "Tyllau'r Coed," Gaewern, pan y neidiai i fyny oddiar y fainc naddu, ac âi o'r neilldu am ychydig fnnudau, pryd y dychwelai yn ôl a llechan yn ei law, ar yr hon y byddai wedi dotio rhyw ddarn o dôn oedd wedi rhedeg trwy ei fenydd ar y fainc, a rhag iddo ei cholli, yn ei tharo i lawr ar ddarn o lechan.[4]. Ym 1858 cyhoeddodd ei lyfr cerddorol gyntaf Y Seraph; neu gyfaill y cerddor ieuanc. Yn yr un flwyddyn symudodd i fyw i Aberystwyth lle fu'n gweithio fel cyflenwr deunydd ysgrifennu a rhwymwr llyfrau. [5] Ym 1863 fe'i penodwyd yn arweinydd côr yr eglwys gadeiriol yn Llanelwy arhosodd yn y swydd hyd 1878 pan symudodd i'r Rhyl i weithio fel swyddog presenoldeb ysgol Sir y Fflint. Symudodd wedyn i Gaernarfon lle fu'n byw gweddill ei oes.[6] Roedd Eos Bradwen yn eisteddfodwr o fri yn gystadleuydd a beirniad rheolaidd yn yr eisteddfodau lleol rhanbarthol a chenedlaethol. Enillodd llawer o wobrau am ei weithiau barddonol ac am gyfansoddi cerddoriaeth. [7] Enillodd wobr am gyfansoddi geiriau i’r cantata Y Mab Afradlon (1870). Cyfansoddodd gerddoriaeth y cantata Owain Glyndŵr a bu canu mawr ar ei unawdau ‘Bugeiles yr Wyddfa’ a ‘Y Gŵr â’r Siaced Wen’. Enillodd yr opera Dafydd ap Siencyn wobr iddo yn eisteddfod Llandudno yn 1885.[8] TeuluYm 1959 priododd Eos Bradwen ag Elizabeth Jones (ei henw cyn ac ar ôl priodi). Bu iddynt saith o blant un mab a chwe merch. Bu farw William eu hunig fab trwy foddi yn Llyn Llanberis tra ar daith Ysgol Sul i'r ardal. Priododd ei ferch Elizabeth Ellen â John Robert Gwyndaf Jones yr argraffydd o Gaernarfon, a mab iddynt hwy oedd y cyfansoddwr William Arthur Bradwen Jones[9] MarwolaethBu farw yn ei gartref yng Nghaernarfon yn 66 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanbeblig. [10]
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia