John Iltyd Nicholl
Roedd John Iltyd Nicholl (21 Awst 1797 – 27 Ionawr 1853) yn dirfeddiannwr, yn gyfreithiwr ac yn wleidydd Ceidwadol a chynrychiolodd etholaeth Caerdydd yn y Senedd rhwng 1832 a 1852.[1] CefndirRoedd Nicholl yn fab i John Nicholl, Ystâd Merthyr Mawr, Pen-y-bont ar Ogwr; barnwr amlwg ac aelod seneddol dros nifer o etholaethau poced yn Lloegr a Judy (née Birt) ei wraig.[2] Cafodd ei addysgu yn ysgol Westminster a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf yn y clasuron ym 1822, Bagloriaeth yn y Gyfraith Cyffredin 1823 a Doethuriaeth yn y Gyfraith Cyffredin ym 1826.[3] Ym 1821[4] priododd Jane Harriet, merch Thomas Mansel Talbot (a brawd Christopher Rice Mansel Talbot AS Sir Forgannwg 1830 – 1890), bu iddynt 7 o blant. GyrfaFe'i galwyd i'r Bar yn Lincoln's Inn ym 1824 a daeth i feddiant yr ystâd deuluol ar farwolaeth ei dad ym 1838 Rhwng 1838 a 1841 bu'n gwasanaethu fel Ficer Cyffredinol a Meistr y Cyfadrannau Talaith Caergrawnt, swydd gyfreithiol yn Eglwys Loegr yn ymwneud â rhwymiadau priodas, penodi notarïaid cyhoeddus, tyngu llwon, dyfarnu ar gyfraith claddu a chynnig cyngor cyfreithiol i'r Archesgob. Gwasanaethodd fel Barnwr Adfocad Cyffredinol y Lluoedd Arfog (pennaeth y system Llys Farsial) rhwng 1841 a 1846.[5] Gyrfa WleidyddolSafodd fel ymgeisydd Ceidwadol Marchnad Rhydd yn etholiad cyffredinol 1832 gan guro'r ymgeisydd Rhyddfrydol Yr Arglwydd Crichton Stewart yn gyffyrddus, gan dal y sedd yn ddiwrthwynebiad hyd etholiad 1852 pan gollodd i'r ymgeisydd Rhyddfrydol Walter Coffin. Gwasanaethodd fel Arglwydd Comisiynydd y Trysorlys rhwng mis Mawrth ac Ebrill 1835. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1841. MarwolaethWedi colli ei sedd seneddol aeth ar daith i'r Eidal a bu farw yn Rhufain yn 55 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Campo Cestio, Rhufain (y fynwent i estroniaid nad ydynt yn Gatholigion – lle claddwyd y beirdd Keats a Shelley hefyd). Mae llun o'i fedd i'w gweld ar wefan Find a Grave [6], ac mae cofadail iddo yn Eglwys Gadeiriol Llandaf Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia