John Evans (AS Hwlffordd)
Roedd John Evans (1796 - 17 Hydref 1864) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Hwlffordd rhwng 1847 a 1852[1] Bywyd PersonolGanwyd Evans yn Hwlffordd yn unig blentyn i'r Parch John Evans, gweinidog capel Presbyteraidd St Thomas Green yn y dref a Mary ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Genefa a Phrifysgol Glasgow lle graddiodd BA Bu'n briod ddwywaith ei wraig gyntaf oedd Ann Jane merch Henry Davies Llanisan-yn-Rhos ac yn ail Mary Ann merch Titus Owen, llawfeddyg, Hwlffordd. Ymysg plant John & Mary Ann Evans oedd y bardd Awstraliad George Essex Evans[2] GyrfaCafodd ei alw i'r bar yn Lincoln's Inn ym 1820 a bu'n gweithio ar gylchdaith Rhydychen a chylchdaith de Cymru. Fe'i codwyd yn Gwnsler y Frenhines ym 1837 Gyrfa WleidyddolPan godwyd Syr Richard Bulkley Philipps i'r bendefigaeth fel Arglwydd Aberdaugleddau cafodd Evans ei ddewis fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol i'w olynu ac fe'i hetholwyd yn ddiwrthwynebiad. Yn yr etholiad cyffredinol nesaf, a gynhaliwyd ym 1852, cafodd ei drechu gan yr ymgeisydd Ceidwadol John Henry Phillips. Safodd fel ymgeisydd yn isetholiad Aberteifi a achoswyd drwy farwolaeth yr aelod Rhyddfrydol Pryse Loveden, ond unwaith eto collodd y sedd i'r Ceidwadwyr MarwolaethBu farw yn Buxton, Swydd Derby[3] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia