John Aubrey, 3ydd Barwnig
Roedd Syr John Aubrey, 3ydd Barwnig (20 Mehefin 1680 – 16 Ebrill 1743) yn wleidydd a barwnig a chynrychiolodd Caerdydd yn y Senedd.[1] CefndirRoedd yn fab i Syr John Aubrey, 2il Farwnig a'i wraig gyntaf Margaret Lowther, merch Syr John Lowther, Barwnig 1af. Ym 1700, olynodd Aubrey ei dad fel barwnig. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle'r ymaelododd yn 1698.[2] GyrfaCafodd Aubrey ei ethol yn Aelod Seneddol etholaeth Caerdydd ym 1706, gan gynrychioli'r etholaeth yn Nhŷ Cyffredin Lloegr hyd 1707, ac yna yn Nhŷ Cyffredin Prydain hyd 1710. Ym 1711 cafodd ei benodi'n Uchel Siryf Morgannwg. TeuluBu Aubrey'n briod tair gwaith priododd ei wraig gyntaf Mary Steally yn Eglwys Sant Iago, Piccadilly ym 1701, roedd hi'n forwyn i'w Mam a ymfeichiogwyd gan Awbrey gan orfodi priodas;[3] bu iddynt dau fab a phedair merch. Priododd Aubrey yn ail Frances Jephson, merch William Jephson erbyn 1708 ac yn drydydd Jane Thomas ym 1725. Bu iddo ddwy ferch o'i ail wraig ni fu plant o'r drydedd briodas. Bu farw Aubrey yn 62 mlwydd oed a chafodd ei gladdu yn Eglwys plwyf Boarstall wythnos yn ddiweddarach. Olynwyd ef yn y farwnigaeth yn olynol gan ei feibion John a Thomas. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia