Jiráff
Carnolyn mawr gyddfhir, buandroed a chilgnöol o Affrica yw'r jiráff neu'r jyraff (lluosog: jiraffod; Lladin: Giraffa camelopardalis), ef yw'r pedwartroedyn byw talaf. Daw'r enw o'r gair Arabeg zurāfa, zarāfa (زرافة), a darddodd yn ei dro o'r Berseg zurnāpā (زُرنَاپَا).[3] Ystyr llythrennol y gair ydy ‘coes ffliwt(aidd)’.[4] Mae'r oedolyn yn 5–6 m (16–20 tr) o daldra ac yn pwyso 1,600 kg (3,500 pwys) ar gyfartaledd, er mai 830 kg yn unig yw'r fenyw. Mae'n perthyn i deulu'r Giraffidae, gyda'i berthynas agosaf - yr ocapi. Gellir gwahaniaethu rhwng y naw is-rywogaeth drwy batrymau eu cyrff. Mae ei diriogaeth, bellach, ar chwâl ac wedi'i leoli o Tsiad yn y gogledd i Niger yn y gorllewin a chyn belled a Somalia yn nwyrain Affrica. Glaswelltir agored, safanâu a choetiroedd agored yw ei gynefin a'i brif fwyd yw dail y goeden acasia. Mae hyd eu gwddw ac uchder eu cyrff yn golygu mai nhw'n unig a all gyrraedd y dail, yn aml. Cânt eu lladd am fwyd gan y llew ac mae'r jiráff ifanc yn cael ei hela hefyd gan y llewpard, yr udfil mannog (Saes. spotted hyena) a'r ci gwyllt Affrica. Does gan y jiraffod ddim cwlwm tynn iawn at ei gilydd, fel parau, nac yn gymdeithasol, er eu bod yn cadw at ei gilydd gan gadw at ei gilydd wrth symud i'r un cyfeiriad. Ar ei phen ei hun mae'r fenyw yn magu'r llo. Drwy ymladd gyda'u gyddfau, mae'r gwryw yn cyrraedd ei safle hierarchaidd. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia