Jesse James
Roedd Jesse Woodson James (5 Medi 1847 – 3 Ebrill 1882) yn herwr, lleidr banc a llofrudd o Americanwr a aned yn Centerville, Missouri, UDA. Rhwng 1860 a 1881, credir fod y James Gang wedi dwyn cymaint â $200,000. Cynhyrchwyd y ffilm cyntaf ohono yn 1921: Jesse James Under the Black Flag a oedd yn serennu ei fab, o'r un enw.[1] Jesse oedd aelod enwocaf Giang James-Younger. Ers ei farwolaeth yn St. James, Missouri, yn 1882, mae wedi tyfu'n ffigwr llên gwerin gyfoes sydd wedi ysbrydoli sawl ffilm, llyfr a chylchgrawn cartŵn. Roedd y teulu o dras Gymreig: yr oedd Jesse yn or-ŵyr i William James, a anwyd yn Sir Benfro, oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn 1754 a ymfudodd i Bennsylvania gyda'i deulu.[2] Enw'i daid (sef mab William James) oedd John James.[3] Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
![]() ![]() |
Portal di Ensiklopedia Dunia