Jerry Hunter
Academydd a llenor Americanaidd yw Dr Jerry Hunter (ganwyd 1965), sy'n dod yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio. Pan oedd yn astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cincinnati cyflwynwyd llenyddiaeth Gymraeg iddo. Daeth i Gymru ac i Lanbedr Pont Steffan i ddysgu Cymraeg ar gwrs dwys, ac wedyn i Aberystwyth i ddilyn MPhil yn y Gymraeg. Aeth yn ôl i Cincinnati a bu yn athro yno, yn gweithio ar fferm ei dad ac yn weithiwr cyflogedig i Greenpeace. Cafodd ddoethuriaeth o Brifysgol Harvard ar ôl astudio Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd. Wedyn bu yn ddarlithydd yn Harvard am ychydig cyn dod nôl i Gymru. Mae wedi dal swyddi academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor.[1] Mae'n un o'r aelodau a sefydlodd grŵp Cymuned. Enwyd ei lyfr Soffestri’r Saeson (2000) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2001. Enillodd ei lyfr Llwch Cenhedloedd y wobr yn 2004.[1] Enillodd y nofel Gwenddydd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010. Llyfryddiaeth![]() Cymraeg
Saesneg
Cyfeiriadau
![]() ![]() |
Portal di Ensiklopedia Dunia