Jennifer Saunders
Digrifwr, sgriptiwr, actores a chantores o Loegr ydy Jennifer Jane Saunders (ganed 6 Gorffennaf 1958). Mae hi wedi ennill dwy wobr BAFTA, Gwobr Emmy Rhyngwladol, Gwobr Gomedi Brydeinig, Gwobr Gŵyl Adloniant Ysgafn Rode d'Or, dwy wobr y Writers' Guild of Great Britain Awards, a Gwobr Peoples Choice. Daeth Saunders i amlygrwydd yn ystod y 1980au a dechrau'r 1990au pan oedd yn aelod o The Comic Strip wedi iddi raddio o'r Central School of Speech and Drama. Ynghyd â'i phartner comedi Dawn French, ysgrifennodd ac actiodd yn eu sioe sgetsys, French & Saunders, a derbyniodd glod rhyngwladol am chwarae'r brif rhan yng nghomedi sefyllfa'r BBC Absolutely Fabulous. Mae hi hefyd wedi ymddangos fel gwestai yn y comedïau sefyllfa Americanaidd Roseanne a Friends, ac enillodd y People's Choice Award Americanaidd am leisio rhan y Tylwyth Teg creulon yn ffilm animeiddiedig 'DreamWorks' Shrek 2. Yn fwy diweddar, ysgrifennodd ac actiodd yn Jam & Jerusalem a The Life and Times of Vivienne Vyle. Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia