Jane Fonda
Mae Jane Fonda (ganed Lady Jayne Seymour Fonda;[1] 21 Rhagfyr 1937) yn actores, ysgrifenwraig, actifydd gwleidyddol, cyn-fodel ffasiwn a gwrw ffitrwydd o'r Unol Daleithiau. Mae wedi ennill Gwobr yr Academi dwywaith, ac yn 2014, derbyniodd wobr gan y Sefydliad Ffilmiau Americanaidd am yr hyn mae wedi cyflawni yn ystod ei bywyd. Gwnaeth Fonda ei debut ar Broadway yn y ddrama 1960 There Was a Little Girl, a fe'i henwebwyd am ddwy Wobr Tony, a gwnaeth ei debut ar y sgrin yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn yn Tall Story. Daeth yn amlwg ar ôl ymddangos mewn ffilmiau yn y 1960au, megis Period of Adjustment (1962), Sunday in New York (1963), Cat Ballou (1965), Barefoot in the Park (1967) a Barabella (1968). Ei gŵr cyntaf, Roger Vadim, oedd cyfarwyddwr Barbarella. Yn ystod ei gyrfa, mae wedi derbyn saith enwebiad am Wobr yr Academi, gyda'r cyntaf yn dod am ei pherfformiad yn They Shoot Horses, Don't They (1969), ac aeth yn ei blaen i ennill dwy Oscar yr Actores Orau yn y 1970au am Klute (1971) a Coming Home (1978). Fe'i henwebwyd hefyd am Julia (1977), The China Syndrome (1979), On Golden Pond (1981) a The Morning After (1986). Mae ei gwobrau eraill yn cynnwys Gwobr Emmy am y ffilm deledu 1984 The Dollmaker, dwy Wobr BAFTA am Julia a The China Syndrome a phedair Gwobr Golden Globe. Yn 1982, rhyddhaodd ei fideo ymarfer corff cyntaf, Jane Fonda's Workout, ac aeth y fideo ymlaen i werhtu'n dda. Ef oedd y cyntaf o 22 fideo ymarfer corff a rhyddhawyd dros y 13 mlynedd nesaf, a gwerthodd dros 17 miliwn o gopïau. Yn 1991, ail-briododd Fonda i'w thrydydd gŵr, mogwl y cyfryngau, Ted Turner, wedi iddi ysgaru o'i ail ŵr Tom Hayden. Ar ôl ysgaru o Turner yn 2001, daeth yn ôl i actio wedi saib o 15 mlynedd gyda'r ffilm gomedi Monster in Law. Ers hynny, mae wedi ymddangos yn Georgia Rule (2007), The Butler (2013) a This Is Where I Leave You (2014). Yn 2009, dychwelodd i Broadway ar ôl 45 mlynedd yn y ddrama 33 Variations, a fe'i henwebwyd am Wobr Tony am y perfformiad, yn ogystal â dau enwebiad Gwobr Emmy am ei rôl gylchol yn y gyfres ddrama HBO The Newsroom (2012-2014). Rhyddhaodd pum fideo ymarfer corff arall rhwng 2010 a 2012. Yn ddiweddar mae wedi bod yn serennu yn y gyres Grace and Frankie (2015) ar Netflix. Roedd Fonda yn actifydd gwleidyddol amlwg yn y cyfnod gwrth-ddiwylliant yn ystod Rhyfel Fietnam ac yn ddiweddar mae wedi ymgyrchu dros eiriolaeth i ferched. Tynnwyd ffotograff enwog a dadleuol ohoni yn eistedd ar gurfa wrth-awyren pan yn ymweld â Hanoi yn 1972. Mae hefyd wedi protestio yn erbyn Rhyfel Irac a thrais yn erbyn merched, ac yn disgrifio ei hunan fel ffeminydd. Yn 2005, cyd-sefydlodd Fonda, ynghyd â Robin Morgan a Gloria Steinem Canolfan y Cyfryngau i Ferched, sefydliad sy'n gweithio i fwyhau lleisiau merched yn y cyfryngau trwy eiriolaeth, hyfforddi yn y cyfryngau ac arweinyddiaeth, a chreu cynnwys gwreiddiol. Mae Fonda ar fwrdd y sefydliad ar hyn o bryd. Rhyhaodd hunangofiant yn 2005, yn ogystal â chofiant yn 2012, o'r enw Prime Time. FfilmyddiaethFfilmiau
Teledu
Cyfeiriadau
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia