James Webb
Roedd James Edward "Jim" Webb (15 Ionawr 1863 – 8 Chwefror 1913) yn Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol a oedd yn chwarae rygbi clwb i Gasnewydd a rygbi rhyngwladol i Gymru. CefndirGanwyd Webb yn Broughton Gifford, Wiltshire yn blentyn i Jesse Webb, llafurwr, a Mary Anne ei wraig. Symudodd y teulu i Gasnewydd yn ystod ei blentyndod a chafodd ei addysgu yn ysgol elfennol y Maendy. O ran ei waith pob dydd roedd Webb yn beintiwr ac addurnwr tai. Gyrfa rygbiTîm cyntaf Webb oedd y Newport Crusaders. Pan ddaeth y Crusaders i ben ymunodd â chlwb Maendy. Ymunodd ag ail dim Casnewydd ym 1883 gan gael ei alw i chware i'r tîm cyntaf yn erbyn Castell Nedd ar gyfer gêm Dydd Gŵyl San Steffan 1884.[1] Fe’i dewiswyd gyntaf i chwarae i Gymru yn erbyn tîm teithiol cyntaf Hemisffer y De, y Maorïaid Seland Newydd. O dan gapteiniaeth Frank Hill, roedd Cymru yn fuddugol dros y twristiaid ar faes Sant Helen, Abertawe ond adroddwyd bod y chwaraewyr cefn Cymreig i gyd yn amlwg nerfus wrth wynebu'r twristiaid, heblaw am Webb a 'Buller' Stadden.[2] Cafodd Webb gêm ragorol, gan gwblhau trosiad ar ôl cais gan William Towers o Abertawe. Ymgeisiodd Webb sgorio gôl gosb o'r llinell hanner ffordd, gan fethu o drwch blewyn; ac roedd yn ddi-fai yn rôl y cefnwr, rôl nad oedd yn gyfarwydd â hi.[3] Bedwar diwrnod yn ddiweddarach ar 26 Rhagfyr, wynebodd Webb yr un tîm teithiol, y tro hwn fel rhan o dîm ei glwb, Casnewydd. Yn wynebu torf lawer mwy nag a oedd yn bresennol yng ngem Cymru, collodd Casnewydd 3 chais i ddim yn erbyn tîm llawer mwy corfforol Māori.[4] Roedd ail gêm a gêm olaf Webb dros Gymru yn erbyn yr Alban fel rhan o Bencampwriaeth y Cenhedloedd Cartref 1889. Collodd Cymru'r ornest ac ni chafodd Webb ei ail-ddewis ar gyfer gemau rhyngwladol Cymreig eto. Parhaodd i chware i dîm cyntaf Casnewydd hyd dymor 1891-1892 gan ymddeol ar ôl y chwe gêm gyntaf. Ym 1892 ail ymunodd â'r ail dîm gan gael ei ddyrchafu'n gapten y tîm ym 1893.[5] Ar ôl rhoi'r gorau i chware, bu Webb yn hyfforddwr tîm Ysgolion Casnewydd [6] ac fe fu'n dyfarnwr hyd ei farwolaeth.[7] Gemau rhyngwladolTeuluYm 1890 priododd Webb â Mary Anne Morgan yng Nghasnewydd iddynt 4 o blant. Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia