James Price William Gwynne-Holford
Roedd James Price William Gwynne-Holford (25 Tachwedd 1833 – 6 Awst 1916) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Aberhonddu rhwng 1870 a 1880[1] Bywyd PersonolGanwyd Gwynne-Holford yn Llansantffraed, Aberhonddu yn fab i'r Cyrnol James Price Gwynne-Holford, Neuadd Buckland a’i wraig Anna Maria Eleanor merch, Roderick Gwynne, Glebran. Bu farw’r tad ym 1844[2]. Priododd Eleanor Gordon-Canning ym 1891 yn eglwys St James, Hanover Square, Llundain[3]. Bu iddynt un ferch. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen. GyrfaBu Gwynne-Holford yn gwasanaethu am gyfnod byr fel Cornet yng Nghatrawd y Gwaywyr. Wedi hynny bu’n cynorthwyo ei fam i redeg ystadau Buckland a’r Cilgwyn, Caerfyrddin. Etifeddodd yr ystadau ar farwolaeth ei fam ym 1888.[4] Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar feinciau Sir Gaerfyrddin a Sir Frycheiniog. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Frycheiniog ym 1857. Gyrfa wleidyddolYm 1870 dyrchafwyd Edward, yr Arglwydd Hyde, AS Rhyddfrydol Aberhonddu i Dŷ’r Arglwyddi. Safodd Gwynne-Holford yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo gan gipio’r sedd i’r Ceidwadwyr. Llwyddodd i gadw'r sedd yn etholiad cyffredinol 1874 ond fe’i collodd i’r Rhyddfrydwr Cyril Flower yn etholiad cyffredinol 1880[5].. Rhwng 1888 a 1896 gwasanaethodd fel cynghorydd ar Gyngor Sir Frycheiniog. MarwolaethBu farw yng Nghrucywel yn 83 Mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym meddgor y teulu yn Eglwys St Ffraid, Llansantffraed[6]. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia