Is-etholiad Caerfyrddin, 1966
Cynhaliwyd Is-etholiad Caerfyrddin 1966 yng Nghaerfyrddin ar 14 Gorffennaf 1966. Roedd Megan Lloyd George wedi bod yn aelod seneddol dros Etholaeth Caerfyrddin ers 1957 a hi enillodd y sedd ar 31 Mawrth 1966. Fodd bynnag, ni chymerodd unrhyw ran yn yr etholiad hwnnw am ei bod yn dioddef o'r cancr a bu farw ar yr 14 Mai 1966. Doedd dim yng nghanlyniadau yr Etholiad cyffredinol yn awgrymu beth oedd i ddod. Enillodd y Blaid Lafur 32 o'r 36 sedd yng Nghymru. Erbyn diwedd Ebrill sylweddolwyd pa mor sâl oedd Megan Lloyd George ac aeth Plaid Cymru ati yn drefnus ac yn sensitif i baratoi at is-etholiad. Dan gyfarwyddyd Cyril Jones (Cynrychiolydd) ac Islwyn Ffowc Elis (Swyddog y Wasg) aethpwyd ati i lunio cynlluniau manwl ar gyfer yr is-etholiad. Yn yr is-etholiad hwn llwyddodd Plaid Cymru i ennill ei sedd seneddol gyntaf erioed. Gellir dadlau i'r fuddugoliaeth yma gael dylanwad ar y pleidleisio yn yr Alban flwyddyn yn ddiweddarach pan etholwyd Winnie Ewing yn Is-etholiad Hamilton ar ran Plaid Genedlaethol yr Alban.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia