Rhwydwaith deledu masnachol yn y Deyrnas Unedig yw ITV. Fe'i lansiwyd fel Independent Television yn 1955 i gystadlu gyda'r BBC, hwn yw'r rhwydwaith masnachol hynaf yn y DU. Ers Deddf Darlledu 1990, ei enw cyfreithiol yw Channel 3, i'w wahaniaethu o'r sianeli analog arall oedd yn bodoli ar y pryd, sef BBC 1, BBC 2 a Channel 4.
Mae ITV yn rwydwaith o sianeli teledu sy'n cynhyrchu rhaglenni teledu rhanbarthol a rhaglenni sy'n cael eu dangos ar draws y rhwydwaith. Ers rhai blynyddoedd mae'r cwmniau oedd yn berchen ar y masnachfreintiau rhanbarthol wedi cyfuno gan adael dau brif gwmni, ITV plc a STV Group (yn yr Alban).
Manylion Masnachfreintiau Sianel 3
Logo ITV (2005-2013)
ITV1 ar gyfer Cymru, Lloegr a De yr Alban
STV ar gyfer Gogledd a Canolbarth yr Alban
UTV ar gyfer Gogledd yr Iwerddon
Mae'r tabl isod yn rhestru masnachfreintiau cyfoes.
↑Cyn 1968 roedd masnachfraint Granada Television yn cynnwys rhannau helaeth o'r hyn sydd bellach dan ardal fasnachfraint Yorkshire Television gan weithredu cytundeb ar ddyddiau gwaith yn unig.
↑Ym 1968 ymestynodd masnachfraint ATV Midlands i ddarlledu saith diwrnod yr wythnos yn hytrach nag ond ar ddiwrnodau gwaith.
↑Ehangodd rhanbarth TWW i orchuddio Gogledd a Gorwellin Cymru yn 1964 ar ôl datgysylltiad Wales West and North Television.
↑ 7.07.1Prynodd TSW Westward Television yn Awst 1981, a darleddodd dan yr enw Westward tan 1 Ionawr 1982.
↑Mae ORACLE hefyd yn darleddu ar S4C a Channel 4 ers Tachwedd 1982.