Hywel ab Ieuaf
Roedd Hywel ab Ieuaf (bu farw 985) yn frenin Gwynedd. Roedd Hywel yn fab i Ieuaf ab Idwal fu'n teyrnasu ar Wynedd ar y cyd gyda'i frawd Iago ab Idwal hyd 969. Yn y flwyddyn honmno, bu cweryl rhwng meibion Idwal, a chymerwyd Ieuaf yn garcharor gan Iago. Yn 979 gorchfygwyd Iago mewn brwydr gan Hywel a chymerwyd yntau yn garcharor. Daeth Hywel yn frenin Gwynedd, ond mae'n ymddangos na ollyngodd ei dad yn rhydd o garchar. Yn ôl J.E. Lloyd, bu Ieuaf yng ngharchar hyd 988. Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am deyrnasiad Hywel. Yn 983, gwnaeth gynghrair gyda'r Saeson i ymosod ar Buellt a Brycheiniog, ond llwyddodd Einion ab Owain o Ddeheubarth i'w hatal. Bu Hywel farw yn 985 a dilynwyd ef ar yr orsedd gan ei frawd, Cadwallon ab Ieuaf. CyfeiriadauJohn Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
|
Portal di Ensiklopedia Dunia