Hugh Rowlands
![]() Roedd y Cadfridog Syr Hugh Rowlands VC, KCB (6 Mai 1828 - 1 Awst 1909) yn fonheddwr o Gymru ac yn filwr a oedd ymysg y Cymry cyntaf i dderbyn medal Croes Fictoria, y wobr uchaf a mwyaf mawreddog am ddewrder yn wyneb y gelyn y gellir ei dyfarnu i aelodau o luoedd Prydain a'r Gymanwlad. Mae rhai ffynonellau'n honni mai Syr Hugh oedd y Cymro Cyntaf i dderbyn y VC[1] ond fel arfer mae'r clod yna'n cael ei roi i Robert Shields. Cyflawnwyd y weithred o ddewrder a arweiniodd at fedal Rowlands ym mis Tachwedd 1854 tra bu gweithred Sheilds ym mis Medi'r flwyddyn ganlynol. Rhif Medal Rowlands yw VC43[2], a rhif medal Shields yw VC104[3], ond cyflwynwyd medal Sheilds iddo ar 26 Mehefin 1857 tra bu'n rhaid i Rowlands ddisgwyl hyd 5 Awst 1857 i dderbyn ei fedal yntau. CefndirRoedd Syr Hugh yn ail fab i John Rowlands, Ystâd Plastirion, Llanrug, Uchel Siryf Sir Gaernarfon ac Elizabeth ei wraig. Roedd y teulu yn ddisgynyddion Bleddyn ap Cynfyn, Tywysog Powys, a Dafydd ap Llywelyn, Tywysog Gwynedd.[4] Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Biwmares ac yn Academi John Taylor yn Woolwich. Gyrfa MilwrolYm 1849 pan oedd yn 21ain oed prynodd gomisiwn yn y 41st (Welsh) Regiment of Foot. Cyflawnodd wasanaethau milwrol yn Iwerddon ac yng Ngwlad Groeg cyn ymuno â'r lluoedd a oedd yn ymladd yn Rhyfel y Crimea ym 1854. Ym mis Tachwedd 1854 bu'n ymladd ym Mrwydr Inkerman pan glwyfwyd Cyrnol Hayly un o'i uwch swyddogion, aeth Rowlands allan o dir diogel, i'w achub rhag llid y gelyn (Nodwedd y VC hyd ganol y Rhyfel Byd Cyntaf, oedd bod gwroldeb yn cyfateb a pheryglu bywyd dros un o radd uwch) a dyfarnwyd Croes Fictoria iddo am ei ddewrder. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia