Hugh Reveley
![]() Roedd Hugh Reveley (15 Gorffennaf 1772 - 9 Tachwedd 1851) yn was sifil Seisnig a thirfeddiannwr yn Sir Feirionnydd. Ganwyd Reveley yn Camberwell, Surrey[1] yn fab i Hugh Reveley, casglwr trethi, a 'i wraig, Jane, merch Phillip Champion de Crespingny. Cafodd ei addysgu yn Eglwys Crist, Rhydychen gan ymuno a'r coleg ym 1791 a graddio fel Baglor y Gyfraith Cyffredin ym 1799.[2] ![]() Bu'n gweithio fel ysgrifennydd Syr John Mitford, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin a phan dyrchafwyd Mitford i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Redesdale a changhellor yr Iwerddon gwasanaethodd Reveley fel ceidwad ei bwrs (trysorydd / cyfrifydd y Canghellor) [3] Ym 1803 priododd Jane unig ferch ac etifedd Robert Hartley Owen, Bryn y Gwin, Dolgellau a thrwy hynny daeth yn berchennog y plasty a'i ystâd o 66 cyfer. Bu iddynt fab, Hugh John Reveley, a merch Jane Frances. Yn fuan wedi'r briodas cychwynnwyd ar y gwaith o adeiladu plasty newydd Bryn y Gwin.[4] Gwasanaethodd fel Ynad heddwch ar fainc Meirionnydd, fel dirprwy raglaw'r sir ac fel Uchel Siryf Sir Feirionnydd ym 1811. Bu farw ym Mryn y Gwin yn 80 mlwydd oed [5] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Mair Dolgellau [6] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia