Huang Xianfan
Hanesydd, anthropolegydd, addysgwr ac ethnolegydd Tsienëaidd oedd Huang Xianfan (Tsieineeg traddodiadol:黄現璠, Tsieineeg wedi symleiddio:黄现璠)(13 Tachwedd, 1899 - 18 Ionawr, 1982). Roedd yn un o sylfaenwyr ethnoleg Tsienëaidd gyfoes[1] ac fe'i ystyrir yn fel tad Zhuangoleg.[2] BywgraffiadGaned ef i deulu o amaethwyr yn Fusui yng ngorllewin yr Guangxi. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Qusi, y Qujiu, Ysgol Ramadeg y Fusui, ac yna i Ysgol Normal Guangxi y Nanning ym 1922. Wedi graddio mewn hanes, astudiodd ym Mhrifysgol Normal Beijing ym 1926, lle astudiodd Hanesyddiaeth,Ieitheg, Ffonoleg, Ethnoleg, Athroniaeth, Llenyddiaeth, Saesneg a Japaneg, lle roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Addysg. Graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes Yr Henfyd ym 1935, ac aeth i Mhrifysgol Tokyo i astudio hanes a anthropoleg, gan raddio yn 1937.Dywedir mai ef oedd y person zhuang cyntaf i raddio o'r Mhrifysgol Tokyo.[3] Yn 1937 dychwelodd i Guangxi ac yna cychwyn gwaith fel athro ysgol ym Nanning. Yn 1938 daeth yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Guangxi, Guilin, ac ym 1941 aeth i Guangzhou, lle daeth yn Athro Hanes ym Mhrifysgol Sun Yat-sen. O 1943 hyd 1953 daeth yn Athro Hanese, Ieithoedd a Ethnoledd ym Mhrifysgol Guangxi. Bu'n phennaeth Adran Addysg, Adran Tsieineeg a phennaeth Llyfrgell ym Mhrifysgol Guangxi. o 1948 tan 1953. Daeth yn Athro yn yr Adran Hanes a phennaeth Llyfrgell ym Coleg Normal Guangxi o 1954 tan 1982. Bu farw ym Guilin yn 1982. HanesyddiaethEi brif waith fel hanesydd a llafur mawr ei oes yw'r dair cyfrol ar hanes Tsieina a gyhoeddwyd rhwng 1932 a 1934, a hanes Zhuang(1957,1988). Ysgrifennodd nifer fawr o lyfrau ar wahanol bynciau; ei lyfr enwocaf yw 中国通史纲要("Hanes Tsieina", 3 cyfrol, Beijing, 1932-1934) a 壮族通史("Hanes Zhuang", Guangxi, 1957, 1988) Maent yn waith ysgolheigaidd o safon uchel sy'n ffynhonnell bwysig i haneswyr. Fe'i gwerthfawrogir am ei iaith a mynegiant yn ogystal â'i manylder hanesyddol. Roedd yn sylfaenwyr o Ysgol Wunu Tsienëaidd.[4] Yn ogystal â bod yn hanesydd, roedd areithiwr, ethnolegydd, anthropolegydd a addysgwr. ZhuangolegYn 1957 cyhoeddodd Hanes Zhuang, sef yr ymgais gyntaf i olrhain gwreiddiau a datblygiad y ethnig Zhuang mewn modd systematig wyddonol, felly, yn dod yn carreg filltir bwysig iawn yn hanesyddiaeth Zhuang(Rhanbarth hunanlywodraethol o fewn Gweriniaeth Pobl Tsieina yw'r ethnig Zhuang. Mae tua 1700 miliwn ohonynt i gyd, 1520 miliwn o'r rhain yn Guangxi, lle maent yn ffurfio 34% o'r boblogaeth). Mae'n wir dweud y rhoddodd pobl Zhuang yn ôl i'r ethnig Zhuang yr ymdeimlad o'u lle mewn hanes ac yn y byd. Parha ei fywyd i ysbrydoli pobl Zhuang i ymladd am ymwybyddiaeth ehangach o'u hunaniaeth ac am barch a defnydd teilwng i'w hiaith a'u diwylliant a'u llenyddiaeth. Roedd yn sylfaenwyr o Ysgol Bagui Tsienëaidd, fe'i ystyrir yn fel tad o Zhuangoleg gyfoes, ac fe'i ystyrir yn un o haneswyr Tsieina mwyaf yr 20g.[5] AnthropolegEi brif waith fel anthropolegydd yw'r hastudiaeth o ethnig lleiafrifoedd yn Guangxi yn Tsieina. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn addysg ethnig Miao, iaith ethnig Yao, diwylliant ethnig Dong ac achyddiaeth ethnig Gelao. Mae bron y cyfan o'i waith yn adlewyrchu bywyd y ethnig lleiafrifoedd a'i hanes.[6] Roedd hefyd yn un o sefydlwyr Cymdeithas ethnoleg Tsienëaidd(1980) a Cymdeithas ethnig Baiyue Tsienëaidd(1980), ac fe'i ystyrir yn un o sylfaenwyr anthropoleg Tsienëaidd gyfoes.[7] AddysgYn 1981 mae ef hefyd sefydlodd y Mhrifysgol Lijiang yn Guilin, ac aeth yn brifathro cyntaf o'r Brifysgol, dechreuodd ar y gwaith o roi mwy o le ac urddas i'r iaith Zhuang yn yr ysgol. Mae gwaith Huang Xianfan fel addysgwr wedi cael ei feirniadu'n hallt gan rai haneswyr modern. Ar sawl ystyr, roedd yn ŵr nodweddiadol o'r ethnig Zhuang. Roedd yn ffigwr o bwys yn atgyfodi'r Zhuang gyfoes a defnyddiodd ei llwyfan i hyrwyddo parch ac anogaeth tuag at iaith a thraddodiadau'r Zhuang. Roedd yn gyfranwr toreithiog i gylchgronnau addysgiadol a phoblogaidd.[8] Cyhoeddiadau(Tsieineeg)
Nodiadau
Gweler hefydLlyfryddiaeth Ddethol
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia