Honolulu
Prifddinas ac ardal mwyaf poblog Hawaii yw Honolulu. Er fod Honolulu yn cyfeirio at ardal dinesig ar arfordir de-ddwyreiniol yr ynys, mae'r ddinas a'r sir yn cydgyfnerthedig, acadnabyddir fel Dinas a Sir Honolulu, dynodir y ddinas a'r sir fel ynys Oahu gyfan. Dinas a Sir Honolulu yw unig ddinas corfforedig Hawaii, gan fod pob math arall o gyngor yn cael ei weinyddu ar lefel sirol. Yn ardal dynodedig Honolulu y cyfrifiad, roedd cyfanswm y boblogaeth yn 371,657 yn ystod Cyfrifiad yr Unol Daleithiau yn 2000, tra bod poblogaeth y Ddinas a'r Sir yn 909,863. Mae Honolulu yn golygu "bae wedi ei gysgodi" neu "lloches" yn yr Hawaïeg (iaith Hawaii). HanesNi wyddwn pryd anheddwyd Honolulu am y tro cyntaf gan yr ymfudwyr gwreiddiol yr ynysfor, a ddaeth o Polynesia. Mae hanesion llafar ac arteffactau yn dangos y bu anheddiad lle safai Honolulu heddiw, yn yr 12g. Ond, wedi i Kamehameha I orchfygu Oahu ym Mrwydr Nuuanu yn Nuuanu Pali, symudodd ei lys brenhinol o Ynys Hawaii i Waikīkī yn 1804. Ail-leolwyd ei lys yn ddiweddarach, yn 1809, i'r ardal a adnabyddir heddiw fel Honolulu. Yr estronwr cyntaf i hwylio yno oedd Capten William Brown o Loegr, yn 1794, gan lanio yn yr ardal sydd heddiw yn Borthladd Honolulu. Roedd nifer o longau eraill i'w ddilyn, gan droi'r borth yn ganolbwynt ar gyfer llongau masnach a oedd yn teithio rhwng Gogledd America ac Asia. Yn 1845, symudodd Kamehameha III prifddinas parhaol Ternas Hawaii o Lahaina ar Maui, i Honolulu. Fe drawsnewidodd ef, a'r brenhinoedd a'i ddilynodd, Honolulu i beth a welwn heddiw, yn brifddinas cyfoes, gan adeiladu strwythrau megis Prifegwlys Sant Andrew, Palas Iolani, ac Aliiolani Hale. Yr un pryd, daeth Honolulu yn ganolfan masnach yr ynysoedd, gyda disgynyddion y cenhadon Americanaidd yn sefydlu busnesau pwysig yng nghanol tref Honolulu. Er hanes terfysglyd yr 19g hwyr a'r 20g cynnar, a welodd cwymp brenhiniaeth Hawaii, a chyfeddiant Hawaii gan yr Unol Daleithiau, ac ymosodiad ar Pearl Harbor gan Japan, mae Honolulu wedi parhau fel prifddinas, dinas mwyaf, a phrif faes awyr a phorthladd Ynysoedd Hawaii. Wedi i Hawaii gael ei droi'n dalaith, daeth ffyniant economaidd a thwristiaeth, gan achosi twf econmaidd i Honolulu a Hawaii. Daeth taith awyr cyfoes filoedd, ac yn y diwedd miloedd (y flyddyn), o ymwelwyr i'r ynysoedd. Erbyn heddiw, mae Honolulu yn ddinas cyfoes gyda nifer o adeiladau sawl llawr. |
Portal di Ensiklopedia Dunia