Hesperides (barddoniaeth)
Casgliad o farddoniaeth gan y bardd Robert Herrick yw Hesperides a gyhoeddwyd gyntaf yn 1648. Dyma'r unig lyfr a gyhoeddwyd ganddo yn ystod ei oes. Mae tua 1,400 o gerddi ac epigramau yn y gyfrol i gyd, y mwyafrif ohonynt yn fyr iawn. Er iddo ysgrifennu cerddi eraill, a gofnodir mewn coflyfrau o'i gyfnod yn Llundain yn y 1620au, mae amlygrwydd a theilyngdod Herrick ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn seiliedig yn gyfan gwbl ar y casgliad hwn. Mae'r gyfrol yn llawn cerddi serch, yn enwedig rhai a chanddynt neges carpe diem, a cherddi natur. Mae'r argraffiad cyntaf yn cynnwys 1,130 o gerddi dan y teitl Hesperides ei hun, ac ynghlwm wrthi mae'r cylch o 272 o gerddi ar bynciau crefyddol a elwir "His Noble Numbers". Fel rheol, caiff y cylch hwnnw ei ystyried yn rhan o Hesperides, ac felly 1,402 o gerddi sydd yn y casgliad i gyd.[1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia