Henry Rice
![]() Uchelwr a hynafiaethydd o Sir Gaerfyrddin oedd Henry Rice (tua 1590 - tua 1651). Roedd yn un o ddisgynyddion Syr Rhys ap Thomas (1449-1525), un o uchelwyr mwyaf grymus de Cymru yn ail hanner y 15g. Credir mai Henry Rice yw awdur bywgraffiad Syr Rhys ap Thomas. Roedd yn byw ar ystad y teulu ym mhlas Newton, Llandeilo. Bywgraffiad Syr Rhys ap ThomasUn o gymhellion Henry i ysgrifennu hanes Syr Rhys a'i deulu oedd ymdrech y teulu i adfer y tiroedd a gollwyd i Goron Lloegr ar ôl dienyddio Syr Rhys yn 1525. Yn 1625 a 1629 bu'n deisyf ar Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban. i adfer gweddill stadau ei hendaid; hawliodd fod y breninesau Mari ac Elisabeth wedi addo hynny i'w dad a'i daid.[1] Arosodd The Life of Sir Rhys ap Thomas (teitl gwreiddiol: A short view of the long life... of Rice ap Thomas) mewn llawysgrif hyd ddiwedd y 18g pan gafodd ei gyhoeddi yn y Cambrian Register (cyfrolau i a ii, 1795 a 1796 ) dan olygyddiaeth William Owen Pughe wrth y teitl newydd The Life of Sir Rhys ap Thomas.[1] Bu'n rhaid aros tan 1993 i gael argraffiad newydd ohono, wedi ei olygu gan Ralph A. Griffiths yn ei gyfrol ar Syr Rhys ap Thomas a'i deulu.[2] Gellir ei gymharu â The History of the Gwydir Family gan Syr John Wynn o Wydir fel un o'r ychydig enghreifftiau o lyfrau hanes teuluol cynnar yng Nghymru ac mae'n ffynhonnell bwysig i haneswyr yr Oesoedd Canol Diweddar.[2] LlyfryddiaethCeir testun The Life of Sir Rhys ap Thomas yn:
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia