Heloísa Pinheiro
Model a stylist o Frasil yw Heloísa Pinheiro (sy'n fwy adnabyddus fel Helô Pinheiro; ganwyd 7 Gorffennaf 1945).[1][2] Ganwyd Pinheiro yn Rio de Janeiro yn 1945 a bedyddiwyd hi gyda'r enw Heloísa Eneida Menezes Paes Pinto. Pan oedd yn 17 oed ysbrydolodd eiriau i'r gân Y Ferch o Ipanema, pan gwelwyd hi'n cerdded ar draeth Ipanema; awduron y gân oedd Antônio Carlos Jobim a Vinicius de Moraes.[3] Cafodd ei hanfarwoli gan y gân a chychwynodd yrfa fel model. Mae gan Helô bedwar o blant o'i phriodas gyda'r peiriannydd Fernando Pinheiro: Kiki, sydd hefyd yn fodel. Mae'n wraig busnes llwyddiannus, gyda chadwyn o siopau gwerthu dillad, o dan y brand Girl from Ipanema: bicinis a dillad traeth, a werthir yn São Paulo a Rio de Janeiro.[4] PublicationHeloísa Pinheiro, autobiography: A Eterna Garota de Ipanema (Ed. Aleph, 160 pages, (ISBN 9788576570837) Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia